Uwch-ddatblygwr Atebion - Prosiect Rheoli Cofnodion Myfyrwyr Rhaglen Ymlaen
- Rhif y Swydd
- SU00268
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Digidol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 19 Mai 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 28 Mai 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Kath Holmes k.m.holmes@swansea.ac.uk
- Gavin Lewis p.g.lewis@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Prifysgol Abertawe am benodi Uwch-ddatblygwr Atebion ar gyfer SITS i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Digidol arloesol, sy'n rhan o'r Adran Gwybodaeth a Gwasanaethau Systemau (GGS). Mae'r rôl hon yn ganolog i wella ein galluoedd digidol ar draws y Brifysgol.
Fel Uwch-ddatblygwr Atebion, bydd gennych gyfle i lywio dyfodol ein tirwedd ddigidol, gan sicrhau bod ein technolegau a'n gwasanaethau yn diwallu anghenion academaidd a gweithredol presennol a rhai'r dyfodol.
Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a rheoli ein platfformau SITS ac e:Vision. Bydd eich arbenigedd yn llywio'r prosiect, gan sicrhau bod yr holl atebion digidol yn rhai cadarn, bod modd eu cyflwyno ar raddfa ehangach a'u bod yn gyson â safonau uchel y brifysgol.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:
• Datblygu a rheoli atebion digidol arloesol ar blatfform SITS i gefnogi gweithrediadau'r brifysgol.
• Gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod yr atebion a ddatblygir yn diwallu anghenion y Brifysgol.
• Darparu arweinyddiaeth ac arweiniad technegol yn nhîm y prosiect.
• Dylunio, datblygu a chefnogi atebion a gynhelir yn y cwmwl ac ar y safle.
• Glynu wrth arferion gorau i sicrhau, ansawdd, diogelwch a pherfformiad atebion.
Rydym yn chwilio'n benodol am ymgeiswyr sydd â phrofiad sylweddol o systemau Tribal SITS ac e:Vision. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o ddatblygu a rheoli atebion digidol yn y platfformau hyn, a bydd yn dangos y gallu i ymdopi â'u cymhlethdodau a manteisio ar eu galluoedd i gyflawni amcanion y prosiect.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes hwn, felly byddem yn annog ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.