Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00274
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£22,681 i £24,533 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
20 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
30 Mai 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y Cynorthwy-ydd Asesu a Dyfarnu yn gweithio yn nhîm Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Gyfadran mewn partneriaeth â staff academaidd, er mwyn darparu'r lefelau uchaf o ragoriaeth mewn cefnogaeth broffesiynol yn y swyddogaethau canlynol:

  • Cydlynu, Cynllunio a Rheoli Asesu bydd hyn yn cynnwys pob rhaglen yn y Gyfadran.
  • Cymorth Blwyddyn/Cylch Academaidd Gweithio i ddarparu rhaglen berthnasol o gefnogaeth brydlon ar gyfer asesiadau ac arholiadau i staff academaidd yn y Gyfadran er mwyn sicrhau y bodlonir yr holl derfynau amser.
  • Adborth Asesu a Marciau – Sicrhau y cofnodir yr holl farciau'n gywir ar y system, ac y rhoir adborth yn brydlon yn unol ag arweiniad/polisi'r Brifysgol er mwyn sicrhau y rhoir penderfyniadau ynghylch dilyniant neu ddyfarniadau i fyfyrwyr yn gywir ac yn brydlon.

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.

Bydd y swydd hon yn addas i ymgeiswyr sy'n hynod drefnus, sy'n rhagweithiol, sydd â llygad craff am fanylion ac sy'n gallu gweithio i derfynau amser tynn o dan bwysau, gan ragweld problemau a all godi. Oherwydd natur y gweithgareddau llwyth gwaith, mae'r rôl hon yn bersonol yn bennaf ac ychydig iawn o gyfle sydd ar gael i weithio o bell.

 

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff academaidd o raglen/ni astudio penodol, neu gefnogi swyddogaeth benodol yn y tîm ledled y gyfadran, felly mae'r gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol a magu dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho PS Candidate Brochure (CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr