Seilir dyfarniadau’r ysgoloriaethau ar allu a theilyngdod academaidd ond hefyd ar eich gweithgarwch ynghlwm
wrth y Gymraeg o fewn cyd-destun addysgol neu gymdeithasol. Byddai’n dda deall hefyd beth yw eich bwriadau i’r dyfodol wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Os ydych eisoes wedi derbyn ysgoloriaeth gan yr Academi mewn blwyddyn flaenorol, gallwch esbonio sut y defnyddioch yr ysgoloriaeth honno.
Lluniwch ddatganiad isod (dim yn hwy na 500 gair) yn esbonio eich rhesymau dros wneud cais, a pham yn eich barn chi, y dylech dderbyn ysgoloriaeth.