Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o ddarparu addysgu ysbrydoledig wedi'i lywio gan ymchwil o'r radd flaenaf a rhagoriaeth mewn arfer proffesiynol, sydd wedi ei gynllunio i'ch helpu i ragori. Ansawdd ein haddysgu oedd y 4ydd rheswm pwysicaf i fyfyrwyr dros ddewis wneud cais i ni yn 2023 (arolwg ymgeiswyr israddedig 2023 Prifysgol Abertawe, yn seiliedig ar restr o 26 ffactor).

Wedi’i danategu gan Strategaeth Dysgu ac Addysgu gadarn, mae ein staff yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn datblygiad addysgol i ddarparu profiad dysgu deniadol a chynhwysol i bob myfyriwr - sy'n cael ei adlewyrchu gan y ffaith fod 26 o’n pynciau yn ymddangos yn yr 20 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad addysgu yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, NSS.*

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein haddysgu'n datblygu'n barhaus, bod ein darlithwyr bob amser yn cael eu hysbrydoli, a bod ein myfyrwyr yn cael mynediad at gyfleoedd astudio cyfoethog ac arloesol, sy'n rhan o'r rheswm bod tabl cynghrair y DU y Guardian sy'n canolbwyntio fwyaf ar addysgu, yn ein gosod yn y 25ain safle o 122 o Sefydliadau'r DU (Guardian University Guide, 2024).

Dyma rai o'r ffyrdd y byddwch chi'n elwa o astudio yn Abertawe, gyda dyfyniadau gan rai o’n myfyrwyr am eu profiadau dysgu:

Astudio mewn amgylcheddau dysgu chwyldroadol sy'n gwthio ffiniau addysgu traddodiadol

"Cyfrannodd y defnydd arloesol o dechnoleg a siaradwyr gwadd yn sylweddol at ein profiad dysgu."

Campws Y Bae

Nid dim ond mewn ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd y byddwch chi'n dysgu. Er enghraifft, mae gan fyfyrwyr yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd fynediad i Ganolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi Prifysgol Abertawe (SUSIM) - cyfleuster sy'n arwain y byd sy'n defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg seiliedig ar efelychiad.

Mae’r Gyfadran Wyddoniaeth a Pheirianneg yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil arloesol, gyda gweithdai, labordai a chyfleusterau o’r radd flaenaf, a bydd myfyrwyr sy’n astudio pynciau cysylltiedig â’r Cyfryngau yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn dysgu mewn ystafelloedd dylunio trawiadol ac ystafelloedd Rhithwir.

Mae ein tîmau Casgliadau Diwylliannol, gan gynnwys y Ganolfan Eifftaidd, y Casgliad Hanes Cyfrifiadura, Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru yn cynnig mynediad at adnoddau cyfoethog a phrofiadau dysgu sy'n seiliedig ar wrthrychau sy'n unigryw i Abertawe.

Gyda'n gilydd rydym yn lleihau rhwystrau i ddysgu

"Mae hi [y darlithydd] yn annog myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn arbenigol i rannu eu profiadau."

myfyrwyr a darlithydd

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn ffynnu ym Mhrifysgol Abertawe, beth bynnag fo'ch cefndir neu'ch amgylchiadau personol.

Mae cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol ar gael ar gyfer ein poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr, ac mae Academi Cynwysoldeb Abertawe yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Abertawe i sicrhau bod dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol yn hygyrch i bawb.

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn sefydliad Cymraeg a Chymreig, ac felly rydym yn grymuso myfyrwyr i ddefnyddio a dysgu drwy’r Gymraeg, os dymunant wneud hynny. Mae cymorth i’n cymuned Gymraeg ar gael drwy Academi Hywel Teifi.

Mae eich adborth yn llywio eich addysg

"Mae'n [y darlithydd] gwneud ymdrech enfawr i ymgysylltu â phawb, tra hefyd yn ei wneud yn awyrgylch cyfforddus a hamddenol iawn i siarad am ein barn. Rydym yn trafod llawer o bynciau diddorol sy'n gwneud i ni adlewyrchu llawer, mewn ffordd gadarnhaol."

myfyrwyr yn gwenu a'r gliniadur

Mae ein hymgyrch 'Gyda'n Gilydd Gwnaethom Newid' wedi taflu goleuni ar yr holl newidiadau gwych a gafwyd o ganlyniad i adborth myfyrwyr, ym mhob agwedd ar fywyd myfyriwr, gan gynnwys addysgu.

Nod yr ymgyrch yw cynnwys myfyrwyr yn yr holl gamau gweithredu a wnaed sy'n seiliedig ar yr ymatebion i'r arolygon myfyrwyr, negeseuon ar Unitu, sylwadau mewn paneli Barn Myfyrwyr/grwpiau ffocws, a gweithgarwch cyfranogiad myfyrwyr arall. Drwy rannu eich barn fel myfyrwyr, mae’n ein helpu i wella profiad myfyrwyr.

Mae'r adborth cadarnhaol y mae ein myfyrwyr yn ei roi ar y darlithwyr a'r addysgu yn bwydo i mewn i wobrau blynyddol Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu ac i wobrau Cymorth Myfyrwyr a enwebir gan fyfyrwyr, gan amlygu ansawdd y profiad addysgol yma.

Mae ein hacademyddion yn cymryd gofal o'u hansawdd addysgu

"Roedd y ffordd yr oedd hi'n poeni am ei myfyrwyr wedi creu argraff fawr arna i. Roedd ei hangerdd yn disgleirio drwodd, ac roeddwn i'n edmygu cymaint roedd hi'n fodlon gwrando a deall lleisiau ei myfyrwyr."

person yn siarad i dosbarth

Yma yn Abertawe mae gennym academi benodol sy'n hyfforddi staff academaidd i wella’n barhaus y ffordd yr ydym yn addysgu. Mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) yn gweithio gyda staff academaidd a phroffesiynol ar draws y Brifysgol i wella addysgu, dysgu ac asesu gan gefnogi ein profiad myfyrwyr o safon.

Mae'r gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cyflwyno ymagwedd arloesol sy'n arwain y sector i sicrhau ansawdd a'i wella, gan alluogi Abertawe i gyflawni a chynnal profiad myfyrwyr ac amgylchedd addysgu rhagorol.

Mae ein ffocws ar sut rydym yn addysgu wedi helpu i sicrhau bod 37 o’n pynciau yn ymddangos yn y 30 uchaf yn y DU ar gyfer Addysgu.*

Gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr y mae eu gwaith yn newid y byd

"Mae'n dod â'r byd go iawn i'r ystafell ddosbarth!"

myfyrwyr mewn labordy

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein hymchwilwyr yn cydweithio ar draws pynciau a diwydiannau i ysgogi newid.

O arloesi ym maes iechyd a gweithgynhyrchu clyfar, i ddylanwadu ar brosesau cyfiawnder a chydraddoldeb a diogelu'r byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, bydd myfyrwyr Abertawe'n dysgu gan y rhai sy'n gwneud gwahaniaeth i'n byd sy'n newid yn barhaus, ac sydd hyd yn oed yn diwygio addysg ei hun.

Eich llwyddiant yn y dyfodol yw ein blaenoriaeth bresennol

“Fyddwn i ddim wedi cael hanner y llwyddiant academaidd rydw i wedi’i gael eleni heb iddi fy nysgu, ac yn sicr ni fyddwn wedi cael hanner yr hwyl.”

Dau myfyrwyr ar y traeth

Mae 95% o fyfyrwyr mewn cyflogaeth, astudiaeth a/neu weithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023).

Mae hyn oherwydd, y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, rydym yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer byd wedi graddio.

Trwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe, rydym yn helpu i roi'r offer sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ffynnu pan fyddant yn ein gadael. Trwy gyrsiau datblygu gyrfa arloesol, pwrpasol ac ymgynghoriadau un i un gyda'n cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig, rydym yn mynd â'r addysgu ymhellach na'r hyn a ragnodir ym meysydd llafur y cwrs.

Rydyn ni wir yn poeni am brofiad addysgol ein myfyrwyr yn ystod eu hamser gyda ni yma.

Eisiau profi rhagoriaeth addysgu Abertawe yn uniongyrchol?

*Sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 1 i 4 yn NSS 2024 y sefydliadau sy’n ymddangos yn y Times Good University Guide sy’n cynnig pynciau.