Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi (SUSIM)

Mae Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi (SUSIM) yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychu i gefnogi dysgwyr a thimau i drochi, myfyrio a datblygu drwy senarios byd go iawn mewn athroniaeth un rhaglen ar amrywiaeth o safleoedd.

 Ein gweledigaeth ar gyfer addysg sy'n seiliedig ar efelychu yw ymgorffori dysgu rhyngbroffesiynol drwy gydol ein cyfres o raglenni clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein henw da byd-eang am addysg gofal iechyd yn ein gosod yn y sefyllfa orau i ddatblygu'r enw da hwn ac i gynyddu defnydd o ddulliau addysg ar sail efelychu a throchi yn ein cwricwlwm er budd ein myfyrwyr ac athrawon a datblygu arferion diogelwch cleifion, timau a systemau drwy ddysgu ymarferol.

Cysylltwch

Hyrwyddwyr SUSIM

Animation of inter-professional working

Archwiliwch SUSIM

Croeso i SUSIM

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn gyrru hyfforddiant meddygol a gofal iechyd yn ei flaen trwy ein Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi o'r radd flaenaf.

Ein Tîm Technegol

Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd technolegwyr efelychu medrus i gefnogi ein timau academaidd i ddarparu technoleg efelychu a chymorth digidol o ansawdd uchel.

Gwaith sy'n torri tir newydd

Mae ein Canolfan Prif Gampws SUSIM ym Mhrifysgol Abertawe a Champws Parc Dewi Sant, ein safle yng Ngorllewin Cymru, yn gartref i un o'r gosodiadau mwyaf o ran technoleg waliau trochi a systemau rheoli efelychu yn fyd-eang.

SUSIM yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael offeryn awduro efelychiad IRIS i wella’r safonau a’r cydweithio wrth ddatblygu addysg seiliedig ar efelychiad. Rydym yn cynnal rhaglenni datblygu cyfadran a hyfforddiant technegol ac yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid bwrdd iechyd a diwydiant ar bob math o addysg ac ymchwil efelychu.

Paramedic students in street simulation with patient

Efelychu ar Waith Ymarfer

Profiad
Nursing and Graduate Entry student working within simulation suite

Rydym yn cydweithio yn Abertawe fel ein bod yn dysgu ac yn hyfforddi gyda'n gilydd hefyd. Mae dysgu gweithio gyda'n gilydd mewn ffyrdd hynod effeithiol â chymorth dulliau addysg sy'n seiliedig ar efelychu'n sicrhau bod gennym fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyderus a medrus sy'n myfyrio wrth weithredu ac ar eu gweithredu ac yn datblygu ymddygiadau cyfathrebu a thîm agored.

Dengys tystiolaeth gynyddol fod modelau uwch o ddysgu sy'n seiliedig ar efelychu o fudd i'r dysgwr, ac maent yn ein galluogi i ddod â safleoedd, arbenigedd a galwedigaethau gwasgaredig ynghyd i ddatblygu profiad a chanlyniadau addysgol.

Rydym yn defnyddio model cyflwyno "prif ganolfan a lloerennau", gan wella ein mannau dysgu a’n hymagwedd hyblyg ac ystwyth . Bydd ein prif ganolfannau hefyd yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu ymhellach eu sgiliau drwy ddysgu annibynnol sy'n ategu sesiynau addysgu ffurfiol ac yn cefnogi anghenion dysgwyr unigol ar yr un pryd.

Mathau Partneriaid ac Ymgysylltu Dysgu Trochi Rhyngbroffesiynol Ymchwil ac Arloesi

Archebwch Gwrs

Cysylltwch â thîm SUSIM am archebion allanol ar gyfer sesiynau efelychu/cyrsiau/gofod.

Ffurflen Ymholiad SUSIM