Gyrfaoedd GIG
Rydym yn arwain y ffordd wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a Gofal Iechyd. Am bron i dri degawd rydym wedi bod ar flaen y gad wrth hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG. P'un a ydych am ddod yn Wyddonydd Gofal Iechyd, â diddordeb mewn dod yn Feddyg, Nyrs neu Fydwraig yn Abertawe, mae dull arloesol ac ymroddiad i wella darpariaeth gofal iechyd yn ein gwneud yn fan delfrydol ar gyfer y cam cyntaf ar eich gyrfa i ddatblygu'r GIG a gofal iechyd ar gyfer ein anghenion i'r dyfodol.
Chwilio am 2024?
Beth am ymuno â ni ar gyfer ein diwrnod agored gyrfaoedd GIG dydd Sadwrn yma 16eg Medi ar ein campws Parc Singleton. Mae'n gyfle perffaith i ddarganfod mwy am ein hystod o raglenni a Ariennir gan y GIG yn ogystal â'n graddau israddedig Llwybrau at Feddygaeth. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gwrdd â'ch darlithwyr, sgwrsio â myfyrwyr presennol, mynd o amgylch y cyfleusterau ac archwilio Abertawe.
Cofrestrwch nawrDod yn …
Os na fedrwch aros am ein sgyrsiau Arddangosfa Gyrfaoedd Clinigol, mae ein Canllawiau Cyflym wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i archwilio'r cyrsiau y tu ôl i bob gyrfa gydag atebion i gwestiynau cyffredin y mae llawer o ymgeiswyr yn eu gofyn i'ch helpu chi i ddeall mwy am y gyrfaoedd hyn, beth mae'n ei gymryd i gyrraedd yno a pha ddrysau a allai fod ar agor i chi wedi i chi gymhwyso.
Nyrsio - Sesiynau Ymgysylltu Abertawe
Rydym yn cynnal amryw o sesiynau ymgysylltu dros y misoedd nesaf, lle gall darpar fyfyrwyr Nyrsio sgwrsio â'n tîm addysgu Nyrsio am ein hopsiynau astudio, gan gynnwys ein cwrs BSc Nyrsio Oedolion rhan-amser hyblyg sydd newydd ei lansio
Archebwch nawrNyrsio - Sesiynau Galw Heibio Caerfyrddin
Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio amrywiol dros yr ychydig fisoedd nesaf, lle gall darpar fyfyrwyr Nyrsio sgwrsio â’n tîm addysgu Nyrsio am y cwrs a bywyd fel myfyriwr Nyrsio ar ein campws ym Mharc Dewi Sant.
Archebwch nawrFfordd Amgen i Ddod yn Feddyg
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Feddyg ac astudio Meddygaeth yn Abertawe, gallai ein cyrsiau Llwybrau at Feddygaeth fod yr opsiwn i chi. Bydd ein Llwybrau at Feddygaeth yn rhoi cyfweliad gwarantedig i fyfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion i astudio ein rhaglen Meddygaeth a dod yn Feddyg.
P'un a ydych am fod ag angerdd am wyddor bywyd yr hoffech ei ddilyn, nad oes gennych y cymysgedd cywir o Lefelau A, neu nad ydych wedi llwyddo i gael cyfweliad ar gyfer Meddygaeth israddedig, efallai mai ein Llwybrau at Feddygaeth yw'r cwrs iawn i chi.
Archwiliwch ein Llwybrau at FeddygaethWyddoch chi?
Oeddech chi'n gwybod bod ystod o'n Cyrsiau Gofal Iechyd yn cael eu hariannu'n llawn gan Gynllun Bwrsariaeth y GIG.
Ariannu eich gyrfa yn y GIG
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu os byddwch yn dewis astudio tuag at yrfa o fewn y GIG:
Nyrsys Galw Heibio Campws Caerfyrdd
A oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am astudio Nyrsio ar ein Campws yng Nghaerfyrddin?
Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio amrywiol dros yr ychydig fisoedd nesaf, lle gall darpar fyfyrwyr Nyrsio sgwrsio â’n tîm addysgu Nyrsio am y cwrs a bywyd fel myfyriwr Nyrsio ar ein campws ym Mharc Dewi Sant.
Cofrestrwch ymaSesiwn galw heibio
14/05/202418:30 - 16:00 BST
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawrYmddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Sesiynau Ymgysylltu â Nyrsio
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am astudio Nyrsio ar ein Campws Singleton?
Rydym yn cynnal amryw o sesiynau ymgysylltu dros y misoedd nesaf, lle gall darpar fyfyrwyr Nyrsio sgwrsio â'n tîm addysgu Nyrsio am ein hopsiynau astudio, gan gynnwys ein cwrs BSc Nyrsio Oedolion rhan-amser hyblyg sydd newydd ei lansio
Archebwch nawrYmweliad
23/04/202418:30 - 20:30 BST
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr