Amal Bamoulid

Amal Bamoulid

Gwlad:
Moroco
Cwrs:
MA Cyfieithu Proffesiynol

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Gwnes i lawer o waith ymchwil cyn cyflwyno cais i brifysgol yn y DU. Gofynnais i i lawer o bobl a gwnaeth llawer o asiantaethau fy helpu. O ganlyniad i hynny, ces i adborth cadarnhaol am Brifysgol Abertawe fel un o'r prifysgolion gorau yn y DU, yn ogystal ag yng Nghymru. O weld y gwobrau y mae'r brifysgol wedi eu hennill, rhoddwyd sicrwydd i mi mai dyma'r brifysgol lle rwyf am greu fy nyfodol. Profodd hynny i gyd yn wir ac nid wyf wedi edifarhau cyflwyno cais.

Allwch chi roi gwybod i ni am eich cwrs a'r hyn y gwnaethoch chi ei fwynhau fwyaf?
Semester cyntaf fy astudiaethau yn y coleg. Dysgais i lawer gan athrawon gwych, yn enwedig ysgrifennu traethodau, ac rwy'n teimlo fy mod i wedi gwella'n fawr ers hynny. Yn yr ail semester, roedd gen i ddau fodiwl gyda'r coleg a dau fodiwl gyda'r brifysgol. Fy nghwrs yw cyfieithu proffesiynol lle rydyn ni'n astudio sawl cwrs, gan gynnwys cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur, yn ogystal â rheoli terminoleg, lle ces i lawer o help gan ddarlithwyr gwych. Roeddwn i'n dwlu ar y glannau, yn ogystal â’r gweithgareddau a gynhaliwyd yn y ddau leoliad, Campws Parc Singleton a Champws y Bae, a roddodd lawer o opsiynau i mi ddewis o'u plith.

Beth yw eich tri hoff beth am Brifysgol Abertawe?
Fy nhri hoff beth am Brifysgol Abertawe yw bod barn a phrofiad myfyrwyr yn bwysig, bod llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â chyfoedion a staff er mwyn eu helpu i wella, yn ogystal â'r dulliau a'r cyfleusterau addysgu sydd ar gael.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Rwyf eisoes wedi argymell Prifysgol Abertawe i ffrind, a gyflwynodd gais ym mis Ionawr. Byddwn i'n bendant yn argymell y brifysgol i fwy o bobl pe bawn i'n cael y cyfle i wneud hynny.