Amber Rowsell

Amber Rowsell

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BEng Peirianneg Sifil

Ar ôl gweithio mewn ysbyty rhwng 2014 a 2020, sylweddolais nad oedd yr yrfa roeddwn wedi'i dewis yn gywir i mi. Gyda chymorth fy mhartner a'm teulu, newidiais fy llwybr gyrfa yn llwyr a dewisais astudio ar gwrs gradd mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae canfod sut mae pethau'n gweithio a sut maen nhw’n cael eu hadeiladu bob amser wedi bod o ddiddordeb i mi sef angerdd a sbardunwyd gan fyw ger pont grog eiconig Isambard Kingdom Brunel ym Mryste.

Pam Abertawe?
Cefais fy nhenu i Brifysgol Abertawe gan gynnig diamod y flwyddyn sylfaen, ei lleoliad ardderchog ger y traeth a bod tair awr yn unig o'm teulu. Ar ôl byw mewn dinas fawr, brysur ers tair blynedd, roeddwn yn dymuno newid lleoliad ac roedd cyfaredd dinas lai Abertawe yn berffaith. Roedd safleoedd uchel y brifysgol yn y tablau o brifysgolion, ei chyfleusterau neilltuol a’i chysylltiadau cryf â chyflogwyr, yn enwedig ym maes peirianneg sifil, yn gymhellol. Mae fy hoff agweddau ar Abertawe yn cynnwys y traethau hardd a'r ardaloedd cyfagos megis Gŵyr a Sir Benfro, ymuno â chlwb triathlon lleol a'r gymuned gefnogol y mae'n ei darparu. Roedd y rhaglen peirianneg sifil yn apelio ataf oherwydd ei darlithwyr gwybodus, profiadau dysgu ymarferol megis y sesiwn breswyl yn y flwyddyn gyntaf sy'n gysylltiedig â modiwl y briffordd a llawer o gyfleoedd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol ym maes diwydiant. Ar hyn o bryd, rwy'n ymgymryd â lleoliad gwaith dros yr haf gyda chyflogwr lleol cyn dychwelyd i astudio ar flwyddyn olaf fy nghwrs gradd MEng. Rwyf yn argymell Prifysgol Abertawe yn fawr iawn, yn enwedig ar gyfer peirianneg sifil o ganlyniad i'w haddysg gynhwysfawr, cysylltiadau cryf â diwydiant ac amgylchedd cyfeillgar sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
1. Y traeth a'r ardaloedd cyfagos megis Gŵyr a Sir Benfro.
2. Ymuno â chlwb triathlon lleol a'r gymuned roedd yn ei chynnig a gallu nofio, beicio a rhedeg mewn lleoliad mor hardd.
3. Y bobl a diwylliant Cymru rydych chi'n eu profi - ar ôl byw yn Lloegr drwy gydol fy oes, mae’n teimlo'n fraint bod yn rhan o hyn.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Y bobl rwyf wedi cwrdd â nhw a'r teimlad o gyflawni aseiniadau/prosiectau. Y gweithgarwch mwyaf 'hwyl' ar y cwrs gradd Peirianneg Sifil oedd y sesiwn breswyl yn y flwyddyn gyntaf sy'n gysylltiedig â modiwl y briffordd. Lle daeth yr ochr ymarferol a'r ochr theori ynghyd ac roedd modd i ni arolygu ac amlinellu safle byngalo.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, yn enwedig Peirianneg Sifil. Mae gan y darlithwyr ystod a dyfnder gwybodaeth gwych ac maen nhw’n fwy na pharod i roi cymorth a dysgu ychwanegol. (Peidiwch â bod ofn mynd i'w swyddfeydd, maen nhw mor gymwynasgar). Mae’r cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth ymhellach, bod yn rhan o astudiaethau ac ymchwil a dysgu gan bobl eraill megis myfyrwyr PhD sy’n helpu ar fodiwlau gwahanol yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r hyn y gall Peirianneg Sifil fod – does dim rhaid iddi fod yn gyfyngedig i un math o rôl yn unig. Maen nhw’n berffaith ar gyfer cyngor addysgol oherwydd, yn aml, maen nhw wedi cael profiad o'r cwrs gradd BEng/MEng eu hunain yn ddiweddar. Cysylltiadau gwych gyda chwmnïau bach a mawr lleol. Mae arweinwyr diwydiant yn addysgu modiwlau gwahanol drwy gydol y cwrs, gan roi'r cyfle perffaith i rwydweithio a chael mwy o wybodaeth am 'fywyd gwaith' go iawn. Mae'r lleoliad yn brydferth ac, er bod y rhan fwyaf o flwyddyn academaidd y brifysgol yn ystod misoedd y gaeaf, mae'r traeth ar Gampws y Bae yn lle perffaith i ymlacio. Heb sôn am ymdeimlad tref fach dinas Abertawe sy'n berffaith os nad ydych chi'n mwynhau ymdeimlad o ddinas fawr, brysur.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Rwyf wedi bod yn rhan o'r Gymdeithas Peirianneg Sifil drwy gydol fy nghwrs gradd. Oherwydd i mi ddechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod pandemig Covid, roedd hyn yn gyfle i mi gwrdd â'm cyd-fyfyrwyr a siarad â nhw a'r rhai mewn blynyddoedd gwahanol. Roedd y pontio i addysgu wyneb yn wyneb yn sylweddol haws o ganlyniad a chael cefnogaeth y rhai a oedd yn bellach ymlaen yn eu rhaglenni gradd.