Angharad Grimwood
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BMid Bydwreigiaeth
Dewisais astudio yn Abertawe achos wrth adael fy nghyfweliad roeddwn i’n teimlo na fyddai unman arall yn cymharu.
Roedd y lleoliad ger y traeth a’r ymdeimlad cymunedol go iawn ar y campws yn gwneud imi deimlo’n gartrefol o’r cychwyn cyntaf. Ar ben hyn, roeddwn i’n teimlo’n llawn cyffro am fy nhaith i fod yn fydwraig o ganlyniad i’r sgyrsiau yn ystod y diwrnod agored, yn ogystal â’r cyflwyniad i’r Brifysgol ar y cyfan, sydd ag enw rhagorol yn academaidd ac ystadegau ardderchog o ran boddhad myfyrwyr.
Mae cynifer o bethau am fy nghwrs rydw i’n dwlu arnynt, ond fy hoff beth, dwi’n meddwl, yw’r elfen o integreiddio astudio a lleoliad gwaith.
Rydw i’n gallu cymhwyso’r holl wybodaeth a’r sgiliau rydw i’n eu dysgu yn y Brifysgol yn uniongyrchol i’m hymarfer fel Bydwraig dan Hyfforddiant.
Mae wedi rhoi blas go iawn imi ar weithio fel bydwraig, sy’n hanfodol i fyfyrwyr sydd am fod yn y swydd hon yn fy marn i. Yn ogystal â hynny hynny, mae wedi dysgu crefft trefnu imi, a’r gallu i reoli fy amser yn effeithiol. Yn eu tro, bydd yr holl sgiliau hyn yn fy helpu i fod y fydwraig orau bosib.
Fy nghyngor i unrhyw un sy’n cyflwyno cais fyddai gwnewch ymdrech i ddeall swydd bydwraig yn llawn.
Darllen am y proffesiwn, deall yr heriau y gallech eu hwynebu ac ystyried a fydd y rolau a’r cyfrifoldebau yn cyd-fynd â’ch personoliaeth a’ch ffordd o fyw. Mae dechrau’r cwrs yn sioc fawr gan ei fod yn ddwys ac yn brysur iawn, ond byddwch chi’n gwybod as fydd yn iawn i chi achos byddwch chi’n dwlu ar bob eiliad. Cadwch eich brwdfrydedd yn agos at eich calon, a byddwch yn driw i chi’ch hun amser!