Aser Emarah

Aser Emarah

Gwlad:
Yr Aifft
Cwrs:
BSc Peirianneg Meddalwedd

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 
Roedd y syniad bod y campws wrth ochr y traeth wedi fy mhlesio'n fawr ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad da ar ôl fy narlithoedd i ymlacio a dadflino ger y traeth. Mae Abertawe'n ddinas fach, a oedd wedi'i wneud yn lleoliad dewisol i mi gan na fydd cymudo rhwng lleoedd mor anodd.Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol campws, nid prifysgol yng nghanol y ddinas. Felly, mae ganddi lawer o amwynderau, rhai academaidd ac adloniant cyfleus ar y campws, a oedd yn bwysig i mi fel myfyriwr rhyngwladol. Mae hefyd gymuned yn y brifysgol lle mae myfyrwyr o bob cwr o'r byd, a oedd wedi fy addysgu am ddiwylliannau newydd yn ogystal â theimlo'n gartrefol ar yr un pryd, gan fod yna fyfyrwyr o'r Aifft/Kenya sef fy mamwlad.

Dywed wrthym am dy gwrs a'r hyn rwyt ti'n ei fwynhau fwyaf.  
Trwy astudio peirianneg meddalwedd, rydw i wedi dysgu llawer am hanfodion codio a chael y gallu i feithrin amryfal sgiliau fel gwaith tîm, sgiliau golygu fideo a chodio amrywiaeth o ieithoedd. Mae'n gwrs cystadleuol iawn gan ei fod yn dwyn y 7 safle yn y DU a'r 1 yng Nghymru. Roeddwn i wedi mwynhau creu gêm gyda fy nghydweithwyr ar gyfer prosiect ein cwrs a gosod nodau carreg filltir i'n gilydd wrth greu darn syfrdanol o waith.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe? 
1. Mae'r golygfeydd a'r traeth yn ymlaciol iawn.
2. Mae ansawdd yr addysg a gofal y Brifysgol am y myfyrwyr yn uchel a chaiff pethau eu datrys â difrifoldeb, sy'n gwneud i'r myfyrwyr deimlo bod y Brifysgol yn gofalu amdanynt.
3. Mae'r gymuned yn garedig ac yn gymwynasgar iawn, sy'n gwneud i mi deimlo'n gartrefol.

Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill? 
Byddwn i'n argymell i unrhyw fyfyriwr rhyngwladol ymuno â Phrifysgol Abertawe.