Ayo Fadahunsi

Ayo Fadahunsi

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
MSc Ffiseg

Mae rhai myfyrwyr yn dod i Brifysgol Abertawe oherwydd ei safle uchel yn nhabl y gynghrair ar gyfer boddhad myfyrwyr. Dyma fy esboniad byr pam rwy'n meddwl mai dyma'r Brifysgol orau erioed mewn dwy ran.

Cyn i mi ddod i Brifysgol Abertawe:

Ar ôl i mi ymweld â Phrifysgol Abertawe ar gyfer Diwrnod Agored ar ôl fy astudiaethau Safon Uwch, meddyliais i mai dyma oedd y dewis cywir i mi am ddau reswm.

Y profiad a ges i wrth siarad â staff cyffredinol o gwmpas y campws drwy gydol y diwrnod, yn enwedig y ffaith fy mod i'n siarad yn uniongyrchol â'm darpar ddarlithwyr. Ges i daith dywys bersonol o'r adran Ffiseg gan fy narpar ddarlithydd ac wedyn treuliais i tuag awr yn siarad â grŵp o ddarlithwyr ffiseg a oedd mor agos atoch, ces i fy synnu! Roedd hyn wedi fy nenu a meddyliais i yn syth bin, "rhaid mai dyma'r lle i mi!" A does dim rhaid i mi sôn am harddwch Abertawe, mae hynny'n hollol amlwg.

Roedd hyn, ar y cyd â'r ffaith bod fy nghwrs yn cael ei gynnig gyda blwyddyn dramor, yn ogystal ag opsiynau eraill i astudio dramor, wedi fy helpu i benderfynu (rwy'n ysgrifennu hyn yn llyfrgell Prifysgol Vienna lle rwy'n astudio ac yn byw am flwyddyn fel myfyriwr cyfnewid).

Ar hyn o bryd:
Mae'n ystrydebol i mi ddweud hyn fel myfyriwr presennol ond mae Prifysgol Abertawe wedi rhagori ar fy nisgwyliadau gan brifysgol. Byddaf yn sôn am rai o'r gweithgareddau allgyrsiol hynod grand rwyf wedi cymryd rhan ynddynt yn ddiweddar ac sydd wedi cael eu TREFNU A'U HARIANNU'N LLAWN NEU'N RHANNOL gan Brifysgol Abertawe oherwydd.
Dyma enghraifft:

  • Ar hyn o bryd, rwy'n treulio blwyddyn yn astudio yn Vienna, Awstria, fel rhan o'm gradd – mae'r lleoliad hwn wedi'i drefnu a'i ariannu gan y Brifysgol.
  • Treuliais i haf 2023 yn ninas Ho Chi Minh yn Fietnam lle gweithiais i fel intern i gwmni peirianneg adeiladu - roedd yr interniaeth hon wedi'i threfnu a'i hariannu'n rhannol gan y Brifysgol. Yn ystod y cyfnod hwn, ces i gyfle i ymweld â llawer o wledydd eraill yn ne Asia gan gynnwys Tsieina, Malaysia, Singapore ac Indonesia.
  • Ces i gynnig swydd ôl-raddedig gyda fy nghwmni lletyol yn Fietnam pan fyddaf yn gorffen fy ngradd oherwydd fy interniaeth yno yn 2023.
  • Ymwelais i â CERN, y Swistir/Ffrainc ym mis Ebrill 2023 – trefnwyd yr ymweliad hwn ac fe'i hariannwyd yn rhannol gan y Gymdeithas Ffiseg a'r adran ffiseg.
  • Rwy'n gweithio i'r Brifysgol fel llysgennad, gan gynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau megis diwrnodau agored i geisio creu'r union brofiad a ges i pan ymwelais i â'r Brifysgol, drwy drefnu ymgyrchoedd i helpu gyda'r broses glirio a llawer mwy o gyfleoedd ac rwy'n cael fy nhalu am hyn oll!
  • Am bedwar semester, rwyf wedi bod yn rhan o'r cynllun mentora Ffiseg lle byddaf yn mynd i ysgol uwchradd yng Nghymru tuag unwaith yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol i helpu i fentora myfyrwyr blwyddyn 10 – mae hyn wedi'i drefnu gan adran Ffiseg y Brifysgol ac mae'n gyfle â thâl.
  • Rwyf wrthi'n trefnu cyfle am wirfoddoli yn haf 2024 yn Nepal


Dyma enghreifftiau o gyfleoedd rwyf wedi cymryd rhan ynddynt dros y ddwy flynedd diwethaf. Darparwyd yr holl gyfleoedd hyn i mi gan Brifysgol Abertawe ac rwy'n hynod ddiolchgar.

Mae fy 'mhrofiad o Brifysgol Abertawe' wedi bod yn 'brofiad o fywyd'. Rwyf bellach wedi teithio i bobman, gan wneud ffrindiau am oes ymhlith staff, darlithwyr, cymheiriaid, cyd-letywyr a brodorion yr holl wledydd rwyf wedi teithio iddynt ar fy anturiaethau ac yn y Deyrnas Unedig. Nid wyf yr unigolyn roeddwn i cyn i mi ddechrau fy ngradd ym Mhrifysgol Abertawe mwyach.

Wyt ti'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, rwy'n godwr pwysau Olympaidd cystadleuol - fel arfer rwy'n cystadlu'n genedlaethol dros dîm Lloegr a thros dîm Prifysgol Abertawe yn ystod cystadlaethau cynghrair BUCS a'r clwb ond byddaf yn cystadlu dros dîm Awstria am y chwe mis nesaf pan fyddaf yn byw yma.