Basma AlAufi
- Gwlad:
- Oman
- Cwrs:
- LLB Y Gyfraith gyda Throseddeg
Pam dewisaist ti astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Roedd Prifysgol Abertawe'n amlwg i mi oherwydd ei hamgylchedd delfrydol i fyfyrwyr, sydd wedi'i nodweddu gan awyrgylch croesawgar a llawer o gyfleoedd am dwf personol ac academaidd.
Beth oedd wedi dylanwadu ar dy benderfyniad i astudio yn y DU, ac yn benodol yn Abertawe?
I ddechrau, roeddwn i'n astudio yn Awstralia ond oherwydd COVID roedd angen i mi symud a gwneud penderfyniad arall. Felly, trosglwyddais i fy astudiaethau i'r DU oherwydd dyma oedd y dewis gorau.
Roedd lleoliad a diwylliant y DU yn fwyaf deniadol i mi; gan ystyried fy mod i wedi byw yn y DU o'r blaen, roeddwn i'n teimlo bod hwn yn ddewis gwych.
Beth yw dy brofiad o’r bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae'n gyfeillgar iawn ac yn dawel, yn addas i fywyd myfyrwyr. Ymunais i â llawer o gymdeithasau megis Cymdeithas Myfyrwyr Omani, Cymdeithas y Gyfraith, y Gymdeithas Siarad yn Gyhoeddus, y
Gymdeithas Balestinaidd, ac es i i lawer o ddigwyddiadau gwahanol. Mae bob amser rhywbeth i'w wneud ac oherwydd hynny, ces i'r cyfle i ddysgu llawer o bethau a chwrdd â phobl newydd drwy'r amser.
Sut brofiad oedd addasu i'r gwahaniaethau rhwng dy wlad frodorol a'r DU?
Roedd y bobl yma yn Abertawe wedi gwneud i mi deimlo fel mai dyma fy nghartref hefyd. Mae'n wahanol iawn i'm cartref (Oman), fodd bynnag; roedd hi'n hawdd byw yma yn Abertawe oherwydd ei bod hi'n
ddinas fach lle mae'n hawdd cwrdd â phobl drwy'r amser.
Pa fath o gefnogaeth rwyt ti wedi ei derbyn gan y Brifysgol fel myfyriwr rhyngwladol?
Ces i lawer o gymorth gan y tîm rhyngwladol pan gyflwynais i gais i Brifysgol Abertawe yn y lle cyntaf, yn enwedig gan Mohammed. Gwnaeth y tîm fy helpu i gael cynnig a threfnu popeth arall yn
gyflym iawn felly roeddwn i'n gallu dechrau ar fy astudiaethau'n ddi-oed. Roedd y tîm yn hynod gefnogol gan ystyried amgylchiadau anodd fy nhrosglwyddo oherwydd ei bod hi eisoes ym mis Hydref.
Hefyd, ces i lawer o gymorth gan Gyfadran y Dyniaethau ei hun; pan newidiais i fy nghwrs o LLB Y Gyfraith i LLB Y Gyfraith gyda Throseddeg; roedd Dr Jordan Dawson o gymorth mawr i mi.
Sut byddet ti'n disgrifio dy brofiad o fyw yn Abertawe? Beth rwyt ti'n ei hoffi fwyaf am y ddinas?
Rwy'n dwlu ar ba mor agos yw popeth at ei gilydd yn Abertawe ac mae popeth y mae ei angen arnom gerllaw ac o fewn pellter cerdded. Mae'r traeth a'r tirweddau trawiadol sy'n amgylchynu'r ddinas yn
anhygoel. Y peth pwysicaf yw ei bod hi'n ddinas ddiogel!
Pa gyngor byddet ti'n ei roi i fyfyrwyr eraill sy'n meddwl am astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Mwynhewch bob eiliad! A chadwch lygad am gyfleoedd.
Oes unrhyw beth hoffet ti fod wedi gwybod amdano cyn dod i Abertawe a fyddai wedi dy helpu?
Rwy'n meddwl, o ran fy ngradd, hoffwn i fod wedi gwybod rhagor am y cyfleoedd y mae Cymdeithas y Gyfraith yn eu cynnig ac am Glinig y Gyfraith sydd gennym. Hefyd, wnes i ddim defnyddio'r cymorth
Cyflogadwyedd gymaint ag y dylwn i wedi yn ystod fy nwy flynedd gyntaf, a hoffwn i fod wedi dechrau ar hwn yn gynharach.