Bethan Killeen
- Gwlad:
- Unol Daleithiau America
- Cwrs:
- BSc Troseddeg a Chymdeithaseg
Lleoliad Prifysgol Abertawe yw'r prif reswm y penderfynais astudio yma. Mae'n agos at y teulu sydd gen i yn y DU, ond yn ddigon pell i mi allu bod yn fwyfwy annibynnol. Rwy'n dod o Massachussetts, UDA ac ar hyn o bryd dw i’n byw ar Gampws y Bae.
Gyda'r traeth eiliadau i ffwrdd, bywyd nos gwych, a'r ffaith bod canol y ddinas yn agos iawn, roedd Prifysgol Abertawe yn ddewis perffaith i mi. Roedd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn y brifysgol hon yn apelgar iawn. Daeth fy chwaer i astudio ym Mhrifysgol Abertawe a chafodd brofiad anhygoel. Roeddwn i'n teimlo'n eithaf hyderus felly y byddwn i'n mwynhau fy amser yn Abertawe.
Gan fy mod yn astudio yn Abertawe, dw i’n gallu astudio Troseddeg a Chymdeithaseg mewn un radd. Mae Troseddeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael sgôr uchel ac mae'n cynnwys amrywiaeth o fodiwlau diddorol. Yn fy ail a'm trydedd flwyddyn, bydd gen i'r gallu i ddewis y rhan fwyaf o'm modiwlau. Bydd hyn yn golygu fy mod yn gallu canolbwyntio ar y pethau sydd o ddiddordeb penodol i mi. Mae darlithoedd Troseddeg a Chymdeithaseg yn ddiddorol iawn; yn enwedig pan fydd y darlithwyr yn cysylltu rhai pynciau â senarios bywyd go iawn. Mae fy nghwrs yn wirioneddol ddiddorol ac yn fy ngalluogi i ddatblygu fy niddordebau.
Hyd yma, mae fy narlithwyr wedi bod yn wych am esbonio'r cynnwys a sicrhau bod eu hesboniadau'n gryno. Mae fy narlithydd presennol ar gyfer modiwl Y Gyfraith, Cyfiawnder Troseddol a Hawliau Dynol yn barod iawn i helpu o ran y ffordd y maen nhw'n esbonio'r cynnwys.
Dyw’r cwrs ddim yn fy llethu ac mae'n eithaf hyblyg. Fy hoff fodiwlau oedd Unigolion a Chymdeithas, Cyflwyniad i'r System Cyfiawnder Troseddol, a'r Dychymyg Cymdeithasegol a Throseddegol. Roedd cynnwys y modiwlau hyn o ddiddordeb mawr i mi. Elen i, mae fy annibyniaeth, fy hyder a'm cyfrifoldeb wedi datblygu ymhellach. Yn y brifysgol, cyfrifoldeb yr unigolyn yw mynychu darlithoedd, dysgu'r cynnwys, a chwblhau'r aseiniadau. Dw i wedi datblygu fy sgiliau ysgrifennu traethodau'n fawr hefyd, a byddaf yn parhau i wneud hynny drwy ymarfer ac adborth. Mae ysgrifennu traethodau yn gyfle i ddangos fy nealltwriaeth o'r cynnwys. Mae ennill gwybodaeth a gallu esbonio’r hyn dw i wedi’i ddysgu yn hollbwysig er mwyn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa.
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn darparu amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol gan gynnwys profiad gwaith, cyngor gyrfaoedd, a chyngor ar gyfer paratoi cyn cyfweliadau. Byddaf yn bendant yn defnyddio'r tîm gyrfaoedd yn y dyfodol agos er mwyn fy helpu i baratoi ar gyfer fy nyfodol.
Y seminarau yw un o fy hoff bethau am y cwrs gan fod llawer o wahanol safbwyntiau'n cael eu rhannu ac rydyn ni’n gallu canolbwyntio'n sylweddol ar rai pynciau a'u trafod. Yn ail, dw i’n mwynhau'r modiwlau sy'n esbonio sut mae troseddu yn effeithio ar gymdeithas, a sut mae cymdeithas yn effeithio ar droseddu. Yn olaf, dw i’n hoffi faint o frwdfrydedd sydd gan yr holl ddarlithwyr am addysgu'r cynnwys. Mae hyn yn sicrhau fy mod yn parhau'n frwdfrydig iawn ac yn awyddus i ddysgu mwy.
Dw i wrth fy modd â'r traeth yn Abertawe gan ei fod yn lle gwych i fynd gyda ffrindiau i gael hwyl a/neu ymlacio. Yn ail, dw i’n hoffi'r ffaith ei bod yn ddinas fach a ’mod i’n dueddol o weld pobl dw i’n eu hadnabod ble bynnag yr af. Yn olaf, dw i wir yn hoffi'r bobl dw i wedi cwrdd â nhw yma.
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ddewis perffaith i mi o ran y cwrs dw i’n ei astudio a'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith roeddwn i'n chwilio amdano. Mae yma wasanaethau cymorth gwych, pobl gyfeillgar, ac mae wrth ymyl traeth tywodlyd hardd.