Dr Eeshani Bendale
- Gwlad:
- India
- Cwrs:
- MSc Nanofeddygaeth
Yn ystod fy ngradd israddedig, roeddwn wedi penderfynu astudio Nanofeddygaeth gan mai dyna'r pwnc a daniodd fy niddordeb a'm chwilfrydedd fwyaf. Er hynny, roedd yn heriol iawn dod o hyd i gwrs a oedd yn darparu ar gyfer fy union anghenion. Roeddwn wrth fy modd pan wnes i ddod o hyd i MSc mewn Nanofeddygaeth a gynigir gan Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac yn hapusach fyth pan gefais fy nerbyn. Yn ystod fy nghwrs, cefais brofiad dysgu hynod werthfawr yn ogystal â boddhad o ddatblygu fy ngwybodaeth a sgiliau ymchwil. Roedd y tiwtoriaid wir yn gymwynasgar, a byddaf bob amser yn cofio’n hoffus ein holl drafodaethau academaidd yn ogystal â’n sgyrsiau cyfeillgar. Gallem fod wedi estyn allan atynt unrhyw bryd am unrhyw bryder neu unrhyw syniadau newydd oedd gennyf.
Cam mawr ymlaen yn fy ngyrfa oedd fy mywyd yn Abertawe yn ogystal â'm twf personol. Mae gan Abertawe le arbennig yn fy nghalon. Byddaf bob amser yn cofio fy rhediadau ar y traeth, nosweithiau carioci yn JC’s a sgyrsiau hwyr gyda’r nos yng nghwmni fy ffrindiau yn y neuadd. Arhosais mewn neuadd ar Gampws Singleton a chael rhai o fy atgofion gorau yno. Deuthum yn ffrindiau gyda fy mêts yn y neuadd ac roedd yr amserau a gefais gyda nhw yn anhygoel a bydd y cyfnod bob amser yn annwyl iawn i mi. Credaf fy mod wedi gwneud rhai ffrindiau hyfryd oes.
I mi, fe wnaeth Abertawe ddarparu'r llwyfan yr oeddwn yn edrych amdano mewn perthynas â'm gwaith ym maes Nanofeddygaeth Ayurvedic. Rwy'n ddiolchgar am byth i Abertawe am fy wneud y y person yr wyf heddiw. Rwyf bellach yn dilyn MSc mewn Gofal Iechyd Seiliedig ar Dystiolaeth o Brifysgol Rhydychen. Rwy’n annog unrhyw un sy’n chwilio am brofiad prifysgol anhygoel i wneud cais i Brifysgol Abertawe. Rwy'n addo - byddwch wrth eich bodd!