Kirsty Dawn Hill
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- PhD Seicoleg
Beth wnaethoch chi cyn cwblhau eich doethuriaeth?
Cyn astudio ar gyfer doethuriaeth mewn seicoleg, bûm yn astudio seicoleg ar lefel israddedig, lle cefais radd dosbarth cyntaf. Wedyn es i ymlaen i astudio ar gyfer MSc mewn Seicoleg Glinigol, a llwyddo gyda rhagoriaeth.
A allwch chi roi trosolwg byr o'ch pwnc PhD?
Mae fy noethuriaeth yn archwilio'r profiad seicolegol cymhleth o fyw gyda nam ar y golwg. Mae'r traethawd ymchwil yn canolbwyntio'n gyntaf ar sut mae unigolion yn ymateb yn seicolegol wrth dderbyn diagnosis o golli golwg ar ôl iddynt dyfu’n oedolion. Yn dilyn hyn, rwy’n archwilio sut mae nam eu plentyn yn effeithio ar rieni plant sydd â nam ar y golwg, ac ar deinameg y teulu. Yn olaf, mae'r traethawd ymchwil yn ystyried nam ar y golwg o safbwynt athrawon arbenigol, gan gynnig mewnwelediad i nam ar y golwg yng nghyd-destun addysg.
Pam y gwnaethoch chi benderfynu astudio ar gyfer doethuriaeth?
Roeddwn i'n teimlo y byddai doethuriaeth yn cynnig cyfle amhrisiadwy i gynnal a dadansoddi ymchwil o fewn maes seicoleg unigryw nad oedd yn cael ei astudio llawer. Roeddwn i'n teimlo y byddai hyn yn gwella’r sgiliau ymchwil sydd eu hangen arnaf ar gyfer gyrfa glinigol, wrth hefyd gynnig y posibilrwydd o ddilyn trywydd gyrfa fwy academaidd ym maes seicoleg.
Pam y penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Wrth wneud cais i astudio yn y brifysgol, Abertawe oedd fy newis cyntaf. Cefais fy nenu gan frwdfrydedd staff a myfyrwyr yr adran seicoleg, a pha mor barod oeddent i gynnig cymorth. Gwnaeth astudio ar gyfer doethuriaeth yn Abertawe hefyd gynnig parhad i mi oherwydd roeddwn eisoes yn gyfarwydd â'r ganolfan drawsgrifio a staff yr adran seicoleg, ac mae'r ddau dîm eisoes wedi bod yn anhygoel o ran deall fy anghenion fel myfyriwr sydd â nam ar ei golwg.
Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu?
Fel myfyriwr sydd â nam ar fy ngolwg, rwyf wedi gorfod bod yn fwy creadigol a meddwl yn agored pan ddaw at agweddau mwy gweledol fy astudiaethau. Hefyd, roedd pandemig Covid-19 yn golygu bod yn rhaid i mi ystyried dulliau eraill o gynnal fy ymchwil. Roedd yn siomedig fy mod wedi cael fy atal rhag mynd allan a chwrdd â phobl wyneb yn wyneb, ond er gwaethaf hyn llwyddais i gynnal cyfweliadau gwerthfawr ac ystyrlon dros y ffôn.
Sut rydych chi wedi elwa o wneud doethuriaeth?
Rwyf wedi elwa cymaint o'm hastudiaethau, gan ddatblygu fy sgiliau fel ymchwilydd ansoddol, yn ogystal â mireinio fy sgiliau cyfweld a chydweithio â nifer o ddisgyblaethau a sefydliadau proffesiynol. Fel rhan o fy nhaith PhD, roeddwn hefyd yn gallu cymryd rhan yn y digwyddiad Thesis Tair Munud, ac enillais yr ail wobr. Gwnaeth hyn wir wella fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus a hyrwyddo fy ymchwil.
Sut bydd eich cymhwyster yn helpu eich gyrfa? Ydy’r cymhwyster eisoes wedi helpu eich gyrfa?
Bydd fy noethuriaeth yn hwb amhrisiadwy i fy ngyrfa fel seicolegydd sydd â diddordeb arbennig mewn anabledd/salwch cronig. Yn wir, mae fy noethuriaeth eisoes wedi fy ngalluogi i gyhoeddi rhan o'm traethawd ymchwil fel erthygl ymchwil a fydd, gobeithio, yn ei dro, yn helpu eraill i ddeall yn well y profiad o fyw gyda cholli golwg.
Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt i chi?
Uchafbwynt fy noethuriaeth oedd cael y fraint o gyfarfod a siarad â phawb a gyfrannodd at fy ymchwil. Mae'r cryfder y mae pob un ohonyn nhw'n ei ddangos yn ddyddiol yn gwneud imi deimlo’n ostyngedig, ac maent wedi fy ysbrydoli i eisiau adrodd eu hanesion.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n ystyried gwneud astudiaethau ôl-raddedig?
Teimlaf fod astudiaethau ôl-raddedig yn brofiad gwerth chweil, ac yn ffordd wych o wella eich hun yn academaidd ac mewn ffyrdd eraill. Byddwn i'n llwyr argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill, yn enwedig i'r rhai sydd ag anabledd. Mae lefel y cymorth a’r gefnogaeth wedi bod yn wych, ac yn bersonol ni allwn weld fy hun yn astudio yn unman arall.