Kwok Leong Chu
- Gwlad:
- Hong Kong
- Cwrs:
- BSc Rheoli Busnes
Rwy'n astudio Rheoli Busnes, y rheswm dewisais i'r cwrs yma yw oherwydd ei fod yn edrych ar nid yn unig Busnes, ond mae e hefyd yn cynnwys Marchnata. Does gen i ddim trywydd pendant am yrfa felly roeddwn i eisiau cadw fy opsiynau yn agored a chael gwell dealltwriaeth o'r ddau faes.
Y pethau mwyaf pleserus am fy nghwrs yw ei fod wedi rhoi'r wybodaeth sylfaenol i mi am bob dimensiwn busnes fel marchnata a rheoli sy'n hanfodion busnes, a hefyd cyfrifeg a chyllid.
Y 3 phrif beth ar fy hoff restr am Abertawe yw’r golygfeydd, caredigrwydd a chynhesrwydd pobl Abertawe, a'r cyfleoedd cyflogaeth.
Yr olygfa o Gampws y Bae yw un o'r rhesymau pam fod pobl eisiau astudio yn Abertawe. Mae wrth ymyl y traeth ac yn galluogi'r myfyrwyr i nofio, cynnal partïon, cynnau tân, joio.
Yn ogystal â hyn, mae pobl Abertawe wedi creu amgylchedd croesawgar ac fe helpodd fi fel myfyriwr rhyngwladol i ymdoddi i'r gymdeithas. Yn olaf ond nid yn lleiaf, mae Prifysgol Abertawe yn darparu llawer o gyfleoedd gwaith i fyfyrwyr ym mlwyddyn 1 i 3, a byddant yn diweddaru'r wybodaeth i chi drwy e-bost yn gyson.