Marta Fortes

Marta Fortes

Gwlad:
Portiwgal
Cwrs:
MEng Peirianneg Fecanyddol

Pam Abertawe?
Roedd Abertawe'n un o'm prif ddewisiadau yn y broses cyflwyno cais i UCAS oherwydd ei Hadran Peirianneg Fecanyddol o fri a'i lleoliad hyfryd ar yr arfordir. Pan wnaeth Abertawe gysylltu â mi drwy Glirio a thawelu fy meddwl bod fy ngraddau'n ddigonol ar gyfer y cwrs, roeddwn i'n gwybod mai dyma oedd y dewis cywir.

Beth rwy'n dwlu am Beirianneg Fecanyddol?
Mae Peirianneg Fecanyddol yn Abertawe wedi fy ngalluogi i ddatblygu set o sgiliau amlbwrpas, sy'n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol. Lluniwyd y cwricwlwm i feithrin meddwl arloesol a galluoedd ymarferol.

Pam rwyf yn argymell Prifysgol Abertawe
Mae staff Prifysgol Abertawe'n hawdd troi atynt, gan roi cymorth rhagorol a hygyrchedd. Fel Cyd-gadeirydd y Gymdeithas Peirianneg Fecanyddol, cefais fy annog i drefnu digwyddiadau ar gyfer y gymuned, a wnaeth imi deimlo'n rhan go iawn o fywyd prifysgol.

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, cymerais ran mewn digwyddiadau a drefnwyd gan Bod yn ACTIF, megis pêl-foli. Gwnaeth y gweithgareddau hyn gynnig hyblygrwydd a chyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm, gan wella fy mhrofiad yn y brifysgol.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Fel Cyd-gadeirydd y Gymdeithas Peirianneg Fecanyddol, rwyf wedi helpu i feithrin perthnasoedd yn ein cymuned drwy gynnal digwyddiadau cymdeithasol, sesiynau astudio, sgyrsiau gan ddiwydiant, ymweliadau safle a digwyddiadau chwaraeon. Nod ein cymdeithas yw:
1. Cryfhau ymdeimlad o gymuned ymysg myfyrwyr peirianneg fecanyddol.
2. Annog rhyngweithiadau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
3. Creu amgylchedd croesawgar ar gyfer myfyrwyr benywaidd mewn maes gwrywaidd yn bennaf yn draddodiadol.
Mae cymdeithasau'n ffordd wych i ryngweithio â'ch cyd-fyfyrwyr.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Ydw, gwnes fyw mewn preswylfa a meithrin cyfeillgarwch gydol oes, gyda rhai ohonynt yn lletya gyda mi ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Wnaethoch chi gyflwyno cais drwy Glirio?
Do, cyflwynais gais drwy Glirio. Er gwaethaf yr heriau a gafwyd oherwydd Covid-19 yn effeithio ar fy ngraddau, gwnaeth Abertawe gydnabod fy mhotensial a chynnig lle i mi'n seiliedig ar fy mherfformiad cryf ym Mathemateg.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, roeddwn yn fyfyriwr llysgennad ac yn hyrwyddwr EDI. Roedd y rolau hyn yn cynnig oriau hyblyg a chyfle i ennill arian wrth feithrin perthnasoedd cryf â darlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bu hyn yn amhrisiadwy ar gyfer cydweithio a chyfnewid gwybodaeth yn y gymuned peirianneg.

Ydych chi wedi graddio neu ydych chi'n fyfyriwr ar hyn o bryd?
Rwy'n graddio ym mis Rhagfyr 2024.