
Natalia Wisniewska
- Gwlad:
- Gwlad Pwyl
- Cwrs:
- BEng Peirianneg Gemegol
Mae A&M Tecsas yn un o brifysgolion gorau'r byd ar gyfer Peirianneg Gemegol ac roedd fy mhrofiad yn fythgofiadwy!
Gwnaethon nhw ymdrech i wneud i ni deimlo'n gartrefol o'r funud cyrhaeddon ni, a theimlais i’n rhan o gymuned myfyrwyr anhygoel y Brifysgol yn gyflym oherwydd y bywyd cymdeithasol. Rwy'n dod o Wlad Pwyl ac roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd a dysgu am ddiwylliannau eraill.
Ar yr ochr academaidd, rhoddodd y rhaglen gyfnewid lawer o brofiad ymarferol i mi, a gwellodd fy sgiliau peirianneg a throsglwyddadwy, gan roi hwb i'm hyder i wynebu heriau newydd hefyd.