Oluwafunmibi Ijaiyemakinde Michael

Oluwafunmibi Ijaiyemakinde Michael

Gwlad:
Nigeria
Cwrs:
MSc Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
 Dewisais Abertawe oherwydd y canlynol:
1. Strwythur y cwrs – Abertawe yw un o'r ychydig brifysgolion sy'n cynnig rheoli cynaliadwy a'r unig un a welais sy'n cynnig rheoli peirianneg cynaliadwy mewn perthynas â datblygu rhyngwladol. Roeddwn i eisiau cwrs a fyddai’n cyfuno fy nghefndir mewn peirianneg â'm brwdfrydedd am waith datblygu ac mae'r cwrs yn cynnig hynny.
2. Y golygfeydd – rydw i wrth fy modd gyda'r teimlad hamddenol o astudio, byw wrth ymyl y traeth a gallu mynd am dro ar y traeth.
3. Yr amrywiaeth - rydw i wrth fy modd â'r amrywiaeth o ran cenedligrwydd sy'n bodoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r darlithwyr a’r myfyrwyr llysgennad i gyd yn dod o gefndiroedd gwahanol.

Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf? 
Mae fy nghwrs yn gwrs dwys ond boddhaol. Mae'n fy ngalluogi i ehangu fy ngallu i feddwl fel gweithiwr peirianneg proffesiynol. Mae'r rhan fwyaf o beirianwyr yn gyfarwydd â chreu ateb gyda meddylfryd penodol mewn golwg. Mae SEM4ID yn fy ngalluogi i gymryd agwedd fwy cyfannol tuag at greu. Yn ogystal ag ystyried y rhwystrau technegol y mae angen eu datrys, rydym hefyd yn ystyried yr effaith ar fywyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mewn cymuned. Hefyd, rydw i'n mwynhau cysylltu â'r gymuned ac mae prosiectau o amgylch Abertawe (Bryn Cilfái) sy'n rhoi cipolwg da ar sut mae partneriaethau a chymorth cymunedol yn teimlo. Ar hyn o bryd, rwy'n teimlo fel peiriannydd sy'n gallu meddwl fel gwyddonydd cymdeithasol. Mae'n deimlad anhygoel.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?
1. Y golygfeydd.
2. Y bobl leol
3. Y cynwysoldeb

A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddaf yn argymell Abertawe dro ar ôl tro. Yn enwedig y ffaith bod ganddi lu o weithgareddau, cyrsiau a chymdeithasau i gynnwys bron unrhyw un. O fywiogrwydd Stryd y Gwynt i dawelwch y marina, mae gan Abertawe bopeth.