Rebecca Gicquel

Rebecca Gicquel

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Mathemateg

Rydw i wedi bod yn amryddawn yn academaidd erioed, felly roedd dewis gradd yn anodd, a threuliais ychydig flynyddoedd yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Mathemateg a Llenyddiaeth Saesneg. Yn y diwedd, penderfynais ar Fathemateg, a oedd y dewis cywir. Mae Prifysgol Abertawe yn ardderchog i bobl fel fi: gallwch astudio gradd o'ch dewis chi a pharhau â'ch diddordebau eraill trwy'r nifer o gymdeithasau sydd ar gael. Er enghraifft, rydw i'n rhan o'r côr sioe gerdd, sy'n caniatáu i mi barhau i ganu yn y brifysgol. Fodd bynnag, os yw eich diddordebau'n cysylltu'n agoscha â'ch cwrs dewisol, bydd cymdeithas sy'n gysylltiedig â'r pwnc hwnnw'n debygol o fodoli; Rydw i hefyd yn drysorydd Cymdeithas Fathemateg Prifysgol Abertawe (SUMSoc). Mae hyn yn caniatáu i mi gwrdd â mwy o bobl ar fy nghwrs, ac mae cael y tir cyffredin yn ei gwneud hi'n llawer haws i wneud ffrindiau o'r un meddylfryd. Roedd parhau â fy niddordebau a'm hobïau a chysylltu â phobl a oedd yn astudio'r un cwrs yn bwysig iawn i mi, ac mae gan Abertawe gynifer o gyfleoedd ar gyfer y ddau. Mae cymaint o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon; mae rhywbeth i bawb.

Mae'r cwrs yn eithaf amrywiol, sy'n caniatáu i mi archwilio meysydd gwahanol o fathemateg a'i chymwysiadau ymarferol. Rydw i wedi datblygu dealltwriaeth llawer dyfnach o sut y gall mathemateg gyd-fynd â sefyllfaoedd yn y byd go iawn, yn enwedig y modiwl Cyflwyniad i Fodelu Mathemategol. Fodd bynnag, dwi hefyd wedi dysgu am ei chymwysiadau damcaniaethol. Ar ôl edrych ar yr holl brifysgolion cyn dewis Abertawe ar gyfer fy ngradd, roeddwn yn teimlo bod gan Abertawe'r amrywiaeth gorau o fodiwlau a oedd yn apelio ata i. Hyd yn hyn, dwi wedi mwynhau fy amser yn astudio yma’n fawr.

Roedd llawer o fanteision yma ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd yr agosrwydd at y môr - fel i lawer - yn fantais sylweddol i'r brifysgol. Ar Gampws y Bae mae'n llai na 5 munud ar droed i'r traeth o unrhyw bwynt. Byddwn yn argymell byw ar y campws, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf, pan fydd gennych lawer i ymdrin ag ef - symud oddi cartref, bod mewn lle anghyfarwydd, dod i arfer â'ch cwrs (yn ogystal â'ch rhyddid newydd!) - a'r peth olaf rydych chi eisiau ychwanegu at hyn oll yw cymudo bob bore. Mae hefyd yn gyfle ardderchog i gwrdd â phobl, sy'n amhrisiadwy wrth gychwyn yn y brifysgol. Mae'r darlithwyr mathemateg yma’n eithriadol: maen nhw bob amser yn hapus i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth. Gan nad oeddwn i wedi astudio mathemateg bellach fel Safon Uwch, roeddwn i ychydig yn bryderus y byddwn ar ei hôl hi. Fodd bynnag, mae'r addysgu ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn hynod gynhwysfawr, ac rydw i bob amser wedi teimlo'n gyfforddus yn gwybod y gallaf ymweld â fy narlithwyr yn ystod oriau swyddfa a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennyf. Mae Abertawe’n ddinas hyfryd. Nid yw'n rhy fawr i rywun o gefn gwlad, fel fi, ond mae’n ddigon prysur i bobl o'r ddinas deimlo nad ydynt wedi symud i ddinas sy'n sylweddol lai.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw, rwy'n aelod o'r côr sioe gerdd a'r Gymdeithas Fathemateg (SUMSOC). Mae bod yn y côr sioe gerdd wedi caniatáu i mi barhau i ganu yn y brifysgol. Mae'r côr sioe gerdd wrth gwrs, yn wahanol iawn i fy ngradd, felly mae'n rhoi amser i mi ymlacio a threulio amser gyda phobl y tu allan i fy ngharfan. Mae SUMSOC ar y llaw arall, yn rhoi'r cyfle i mi gwrdd â phobl ar fy nghwrs, ac mae cael tir cyffredin yn ei gwneud hi'n haws i gysylltu â phobl yn gynt. Fi yw trysorydd y gymdeithas fathemateg, sydd wedi bod yn brofiad gwych, ac mae wedi fy ngalluogi i gael ymdeimlad o gyfrifoldeb yn y gymdeithas.