Sahar Sattar

Sahar Sattar

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Peirianneg Fecanyddol

Pam Abertawe?
Mae Prifysgol Abertawe'n agos at fy nghartref ac mae ganddi gampws hyfryd a chyfleusterau ardderchog.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Rwyf wir yn mwynhau golygfeydd arfordirol a thraethau Abertawe/penrhyn Gŵyr. Mae bob amser rhywle newydd i chi archwilio ac ymweld ag ef. Hefyd, oherwydd bod Abertawe'n ddinas lai o faint, mae'n hawdd teithio o gwmpas a gwneud ffrindiau newydd.

Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?
(israddedig) Ar ôl i mi ddarllen disgrifiadau cyrsiau llawer o brifysgolion, roedd y radd Peirianneg Fiofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe'n ymddangos fel yr un mwyaf cyffrous. Roedd strwythur y cwrs yn cyfuno dulliau dysgu damcaniaethol ac ymarferol mewn ffordd ddiddorol a difyr. Es i i ddiwrnod agored a denwyd fy sylw gan y cyfleusterau newydd a'r campws hardd.
(ôl-raddedig) Wnes i feithrin perthnasoedd ystyrlon yn ystod fy ngradd israddedig a dewisais i barhau â'm hastudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe oherwydd y cyfleusterau ymchwil ardderchog a'r cymorth.

Beth yw dy hoff beth am dy gwrs?
(israddedig) Roeddwn i'n hoffi pa mor frwdfrydig oedd pob darlithydd am ei fodiwl a pha mor awyddus oedd pawb i helpu a chefnogi myfyrwyr i wneud eu gorau.
(ôl-raddedig) Rwy'n mwynhau pa mor ddeinamig gall PhD fod ynghyd â'r cyfle i ddysgu sgiliau newydd. Rwy'n rhan o grŵp ymchwil amrywiol sydd bob amser yn awyddus i helpu a gwrando.

Fyddi di'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe'n fawr i fyfyrwyr sy'n chwilio am gymuned gefnogol lle mae staff a myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i greu profiad ardderchog.

Wyt ti'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw, roeddwn i'n rhan o'r Gymdeithas Peirianneg Fiofeddygol lle gwnaeth y digwyddiadau cymdeithasol fy helpu i gysylltu â chymheiriaid a gwneud ffrindiau newydd yn fy maes.

Wyt ti wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, rwyf wedi cael cymorth arbennig gyda phroblemau academaidd a phersonol.