Samuel Yeung
- Gwlad:
- Hong Kong
- Cwrs:
- MSc Peirianneg Fecanyddol
Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol amrywiol, gyda chydbwysedd da o fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr lleol. Mae pobl (myfyrwyr, staff a phobl leol) yn gyfeillgar ac yn hawddgar. Trwy gydol fy nghwrs, rydw i wedi gwneud ffrindiau o bob rhan o'r byd ym Mhrifysgol Abertawe.
Dewisais ddod yma oherwydd yn gyntaf, mae Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe yn uchel ei statws yn fyd-eang ac yn rhyngwladol.
Yn ail, graddiodd fy mrawd o Brifysgol Abertawe, a rhoddodd ei sylwadau am Brifysgol Abertawe argraff dda i mi. Astudiodd MEng Peirianneg Sifil. Mae'n caru Prifysgol Abertawe ac Abertawe'r ddinas. Y cyfnod o amser y bu yn Abertawe oedd yr amser gorau yn ei fywyd. Bellach mae'n Beiriannydd Sifil yn gweithio yn Hong Kong.
Fe wnes i gais trwy asiantaeth ddiwedd mis Awst (yn ystod y clirio). Roedd yn eithaf syml, dim byd cymhleth ac roedd yn hawdd ei ddeall. Anfonais fy holl wybodaeth a dogfennau at yr asiant mewn diwrnod a derbyniais gynnig diamod o fewn ychydig ddyddiau.
Mae Abertawe yn ddinas ar lan y môr, gyda thraeth hardd a golygfeydd a byd natur gerllaw. Mae chwaraeon dŵr a mynydda yn arbennig o boblogaidd yn Abertawe. Y prif wahaniaeth rhwng Hong Kong ac Abertawe yw'r ffordd o fyw, mae Hong Kong ychydig yn gyflymach nag Abertawe. Ond mae gan Abertawe ansawdd byw uwch na Hong Kong.
Yn ystod fy amser yma rydw i wedi gwneud y mwyaf o'r Tîm Cyflogadwyedd, y Tîm Llwyddiant Academaidd a'r Caffi Mathemateg. Mae'r tîm Cyflogadwyedd yn anfon cyfleoedd gwaith at fyfyrwyr, yn trefnu sgyrsiau â chyflogwyr a chyfweliadau ffug. Mae’r Tîm Llwyddiant Academaidd a Chaffi Mathemateg wedi fy helpu gydag aseiniadau a pharatoi ar gyfer arholiadau.
Rwyf hefyd wedi bod yn Llysgennad Myfyrwyr i’r brifysgol tra’n astudio, mae hon yn rôl rhan amser â thâl sydd wedi rhoi’r cyfle i fi gynrychioli’r brifysgol ar ddiwrnodau agored, trwy sesiynau tynnu lluniau a sesiynau fideo ymgyrchu.
Nesaf, rwy'n anelu at gymhwyso fel Peiriannydd Siartredig.