Shenae Kris-Ann Jonas
- Gwlad:
- Jamaica
- Cwrs:
- MA Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg
Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?
- Mae'r ffordd y mae'n blaenoriaethu bywyd myfyrwyr, mae digwyddiadau a theithiau wythnosol ar gyfer cynnwys myfyrwyr, rwy'n gwerthfawrogi'r lefel hon o ymgysylltu gan ei bod yn rhoi'r gallu i mi gwrdd â phobl ac archwilio.
- Y system cymorth a chyfathrebu i fyfyrwyr. Roedd presenoldeb Prifysgol Abertawe, hyd yn oed cyn i mi gyflwyno cais, yn rhan bwysig o'm penderfyniad i fynd i'r sefydliad. Roedd y Brifysgol yn cyfathrebu’n dda ac yn gwneud pob ymdrech i'm cynnwys mewn gweithgareddau a fyddai'n gwella fy ngwybodaeth fel darpar fyfyriwr. Ces i wahoddiad i fforymau a chynadleddau a chymerais i ran mewn diwrnodau agored rhithwir. Roedd y lefel hon o ymgysylltu yn arwydd clir o lefel y gefnogaeth y byddwn yn ei chael unwaith y byddwn i'n gwneud fy mhenderfyniad ac yn matriciwleiddio fel myfyriwr. Mae'r Brifysgol yn cynnig system gymorth wych a strategaeth gyfathrebu ragorol yn weledol ac yn ysgrifenedig. Rydw i bob amser wedi teimlo fy mod i'n cael fy nghefnogi a'm dilysu, dydw i ddim erioed wedi pryderu o ran fy lles na'm perfformiad academaidd heb fod rhywun yn ymateb. Yn gyffredinol, mae'r staff yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod fy holl anghenion yn cael eu diwallu.
- Rydw i'n mwynhau byw mewn amgylchedd sy'n olygfaol. Mae astudio yn Abertawe yn wych oherwydd bod gen i fynediad i leoliadau deniadol sy'n werth eu harchwilio: Pier y Mwmbwls, Bae Rhosili a Bae Caswell. Hefyd, mae'n bosibl cerdded i'r traeth ac mae cyfleoedd diddiwedd i fynd am dro therapiwtig.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Roedd strwythur y cwrs yn cyd-fynd â'm prif ddiddordebau, gan gyd-fynd ochr yn ochr â'm llwybr gyrfa. Mae fy nghwrs MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg yn mynd i'r afael ag achosion o droseddu, ffactorau sy'n dylanwadu ar droseddu ac opsiynau polisi posibl i ymateb i ddigwyddiadau troseddol. Mae deall nodweddion troseddol y gymdeithas rydym yn byw ynddi a dod o hyd i ffyrdd o ddatrys y broblem o droseddu a thrais treiddiol sy'n digwydd yn fyd-eang yn bwysig iawn.
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Fy hoff beth am fy nghwrs yw'r dull addysgu. Rwy'n gwerthfawrogi arddull addysgu fy nghwrs. Rwy'n gwerthfawrogi bod fy narlithwyr yn agored i drafodaeth "sy'n ysgogi'r meddwl", gallaf herio safbwyntiau prif ffrwd, eu rhannu â'm cyd-fyfyrwyr, dadansoddi syniadau a datblygu ffordd feirniadol o feddwl am faterion sy'n codi o ran y maes astudio.
Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Fy mwriad yw cymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith sy'n ymwneud ag ymchwil deuaidd i ddioddefwyr/troseddwyr, rydw i am gyfrannu at ymchwil a fydd yn egluro ymhellach sut gall erledigaeth yn y gorffennol arwain at droseddu (y duedd i droseddu). Rydw i hefyd yn awyddus i weithio gyda sefydliadau sy'n canolbwyntio ar Hawliau Plant, gyda sylw arbennig ar gam-drin plant yn rhywiol a rhoi diwedd ar garcharu plant. Bydd rhaglen MA Abertawe yn sicr yn fy mharatoi ar gyfer hyn.
A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Yn bendant, rwy'n gwerthfawrogi safonau'r Brifysgol gan eu bod nhw’n perthyn i gymorth i fyfyrwyr. Rydw i bob amser wedi teimlo fy mod i'n cael fy nghefnogi a'm dilysu. Dydw i ddim erioed wedi pryderu am fy lles neu fy mherfformiad academaidd heb fod rhywun yn ymateb, mae'r staff yn barod i helpu ac maen nhw'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod holl anghenion y myfyrwyr yn cael eu diwallu. Mae'r Brifysgol wedi rhagori ar fy nisgwyliadau, ac am y rheswm hwn, byddwn i'n ei hargymell i fyfyrwyr rhyngwladol eraill.
Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Myfyriwr Llysgennad gyda'r Brifysgol a dyma'r profiad mwyaf boddhaus, rwy'n cael y cyfle i ddysgu mwy am gyfleusterau'r Brifysgol a chwrdd â myfyrwyr llysgennad eraill.