Sophia Redaelli
- Gwlad:
- Eidal
- Cwrs:
- BSc Bioleg y Môr
Es i i Abertawe am y tro cyntaf yn 2017 ar gyfer diwrnod agored, pan hedfanodd fy nheulu a mi o'r Eidal i'r DU. Fy argraff gyntaf ar y pryd oedd yn debyg i fod mewn byd cyfochrog, lle roedd y campws wedi'i amgylchynu gan fywyd gwyllt ac roedd yr holl adeiladau'n newydd ac yn fodern. Rwy'n cofio bod meddwl am astudio mewn lle o'r fath wedi ennyn fy mrwdfrydedd ac roeddwn i am ddechrau ar unwaith.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
O oedran ifanc, roedd gen i benderfyniad ac eglurder diwyro ynghylch fy llwybr academaidd a gyrfaol. Roedd gen i frwdfrydedd am y môr a chwilfrydedd diderfyn am ei ddyfnderoedd enigmatig a oedd o ddiddordeb gwirioneddol i mi. Wrth i mi edrych ar raglen astudio Abertawe, cefais i fy nghyfareddu gan ei harlwy. Gwnaeth cwrs mewn ecoleg a chadwraeth forol drofannol greu argraff go iawn arna i a chyd-fynd yn berffaith â'm diddordebau.
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Drwy gydol fy nhaith academaidd, rwyf wedi mwynhau pob agwedd ar y gwaith cwrs a'r gwaith ymarferol rydyn ni wedi ymgymryd ag ef. Fodd bynnag, mae'r gwaith maes wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i mi. Yn ogystal â rhoi'r cyfle i gysylltu a chydweithredu â'm cyd-fyfyrwyr, cynigiodd y profiadau hyn ddealltwriaeth amhrisiadwy o lwybrau gyrfaol posib. Gwnaethon nhw feithrin y sgiliau angenrheidiol i'm paratoi ar gyfer y byd proffesiynol, gan fy addysgu i werthfawrogi pwysigrwydd meddwl yn fanwl ac yn feirniadol wrth ymgymryd â thasgau, a'm galluogi i lunio arolygon i ymdrin ag ymholiadau penodol. Rwy'n ystyried bod y gallu hwn i feddwl yn feirniadol ac yn adeiladol yn un o'r sgiliau pwysicaf a addysgwyd i mi gan Brifysgol Abertawe.
Ydych chi wedi byw gartref yn ystod eich astudiaethau?
Yn ystod fy amser yn Abertawe, ces i'r cyfle i fyw ar y campws ac oddi ar y campws. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, roedd byw ar y campws yn fuddiol gan iddo fy helpu i ryngweithio'n hawdd â myfyrwyr diddorol a hynod gyfeillgar. Yn ogystal, roedd yn fanteisiol byw'n agos at y llyfrgell, yn enwedig gan fy mod i'n dal yn anghyfarwydd â'r ddinas er mwyn dod ynghyd i astudio. Yn ystod fy ail flwyddyn, penderfynodd fy ffrindiau a mi rannu tŷ 20 munud i ffwrdd o’r brifysgol. Doedd y pellter ddim yn broblem gan fod sawl llwybr bws ar gael. Ar ben hynny, roedd yr olwg hardd ar y môr a'r parc yn berffaith wrth i ni gerdded i ddosbarthiadau. Yn bwysicaf oll, roedd byw gyda merched rhyngwladol o gefndiroedd diwylliannol gwahanol yn brofiad buddiol. Roedden ni i gyd yn rhannu'r profiad cyffredin o adael ein gwledydd brodorol ac ymaddasu i fywyd mewn gwlad newydd.
Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud a chithau wedi graddio?
Graddiais i ym mis Gorffennaf 2023 ac ym mis Awst cefais i'r cyfle i fod yn intern tymor hir ar Brosiect y Môr Coch yn yr Aifft am dri mis. Yn ystod fy arhosiad, cefais i'r cyfle i ddysgu a thyfu'n broffesiynol, gan ddefnyddio dulliau a gweithgareddau ymchwil unigryw. Gwnaeth yr ymagwedd ymarferol hon fy ngalluogi i ddatblygu a gwella fy sgiliau mewn meysydd amrywiol o ran cadwraeth ac ymchwil. Drwy gyfranogi'n weithredol yn y prosiect, gwnes i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r heriau a'r cymhlethdodau sy'n ymwneud â chadw ecosystem y Môr Coch. Gall y profiad ymarferol a feithrinwyd drwy'r interniaeth ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer rhagor o ymchwil ac ymdrechion cadwraeth. Yn ystod fy arhosiad, ces i'r cyfle i feithrin gwybodaeth a sgiliau wrth gynnal arolygon amrywiol, gan gynnwys BioBlitz, toreithrwydd crwbanod a physgod, nodi cwrelau, CoralWatch a nodi crwbanod drwy ffotograffau.