Ar ôl Eich Graddio
Archebu eich Ffotograffau ar y llwyfan a dolen i lawrlwytho'r seremoni
Bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu prynu ffotograff wedi’i argraffu o’u hamser ar y llwyfan gyda’r Canghellor neu’r Dirprwy-ganghellor ar ddiwrnod eu seremoni, ynghyd â dolen i lawrlwytho'r seremoni.
Gallwch chi brynu’r rhain yn bersonol ar eich diwrnod graddio yn yr arena, neu drwy e-bostio gradsales@abertawe.ac.uk neu ffonio 01792 987097. Sylwch y bydd angen talu â cherdyn yn unig.
Os ydych wedi cyflwyno archeb ar gyfer llun ar y llwyfan ac ni allwch ddod i gasglu hyn eich hun, sylwer y bydd y ffioedd postio canlynol yn berthnasol (post yn y DU yn unig - caiff yr holl eitemau eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf):
Ffotograffau argraffedig – hyd at dri ffotograff mawr, hyd at dri phecyn â thri ffotograff bach, neu gymysgedd o'r ddau: £4
Cynnyrch | Pris |
---|---|
Ffotograffau Argraffedig (Argraffiad o safon broffesiynol o'th amser ar y llwyfan.) Ffotograff mawr 10" wrth 8" Tri ffotograff 6" wrth 4" |
£15 £20 |
E-bost Graddio Dy holl ffotograffau ar y llwyfan, a dolen i lawrlwytho recordiad o'r seremoni. |
£15 |
Pecyn Graddio Un ffotograff argraffedig 10" wrth 8", tri ffotograff argraffedig 6" wrth 4", a'r e-bost graddio. |
£40 |
Rhowch y gwybodaeth canlynol pan rydych yn archebu:
- Enw a Rhif Myfyriwr
- Amser a Dyddiad y Cynulliad
- Cyfeiriad Post
- Nifer o copïau
Tystysgrif eich Dyfarniad
Tystysgrif eich Dyfarniad
Gan ddibynnu ar pryd y cafodd eich dyfarniad ei gadarnhau, efallai eich bod eisoes wedi derbyn eich tystysgrif gradd drwy’r post.
Os oes angen Trawsgrifiad academaidd arnoch cysylltwch a myunihub@abertawe.ac.uk
Polisi Cyffuriau Anghyfreithlon
Cyn-fyfyrwyr
Croeso i rwydwaith y cyn-fyfyrwyr
COFIA, UNWAITH Y BYDDI DI'N GRADDIO NID DYMA DDIWEDD DY GYSYLLTIAD AG ABERTAWE!
Fel myfyriwr graddedig Prifysgol Abertawe, rwyt ti mewn cwmni da, yn ymuno â rhwydwaith sy'n tyfu drwy'r amser o fwy na 250,000 o gyn-fyfyrwyr sydd yn barod i dy gefnogi di!
Mae llawer o fanteision i fod yn aelod o Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, a byddwn yn rhoi'r diweddaraf i ti drwy gylchlythyron rheolaidd, gwahoddiadau i ddigwyddiadau ac aduniadau.
Gwna'n siŵr dy fod yn ymuno â Chysylltu Prifysgol Abertawe, dy blatfform rhwydweithio personol a phroffesiynol lle cei di ddod o hyd i ffrindiau a chael ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol i dy helpu ar bob cam o dy daith.
Cofia, pan fyddi di'n graddio, caiff dy gyfeiriad e-bost gan Brifysgol Abertawe ei ddileu. Gwna'n siŵr dy fod yn diweddaru dy fanylion cyswllt er mwyn cadw mewn cysylltiad.
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer graddedigion newydd ar ein gwefan yn swansea.ac.uk/alumni/new-graduates, neu gelli di anfon e-bost atom yn alumni@abertawe.ac.uk. Byddem yn dwlu clywed gennyt.
Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Nawr eich bod wedi graddio, mae galw mawr am eich sgiliau gan ystod eang o gyflogwyr. Ond mae llywio eich ffordd drwy'r broses recriwtio'n gallu bod yn brofiad llawn straen. Os ydych yn cael trafferth gyda'ch cam nesaf, a hoffech gael cymorth i nodi eich sgiliau neu nad ydych yn gwybod ble i ddechrau chwilio am rôl i raddedigion, mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yma i helpu!
Mae gennym ystod eang o gymorth ac adnoddau ar gael ar dudalennau gwe Academi Cyflogadwyedd Abertawe gan gynnwys:
Wyddech chi y gallwch chi, ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, gael mynediad at gymorth gydol oes ynghylch gyrfaoedd a chyflogadwyedd?
Gallwn eich helpu i wneud y canlynol:
- Cael mynediad at ein Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion – rhaglen hunangyfeiriedig ar-lein i feithrin eich sgiliau parodrwydd i weithio, rhoi hwb i'ch hyder a meithrin gwydnwch, gan eich helpu i fynd i’r afael â’r broses recriwtio a sicrhau swydd i raddedigion.
- Cael mynediad at Dîm Cymorth i Raddedigion ymroddedig sydd wrth law i gynnig cyngor personol ar yrfaoedd i'ch cefnogi i gynllunio'ch camau nesaf a theilwra eich chwiliad am swydd.
- Cael mynediad at raglen o hyfforddiant a digwyddiadau byw ac ar alw, gan gynnwys ein Ffair Yrfaoedd flaenllaw flynyddol ac amrywiaeth o gyrsiau sgiliau technegol a sgiliau trosglwyddadwy.
- Cael mynediad i ymgeisio am fwrsariaethau cyflogadwyedd*, i'ch cefnogi gyda gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd.
- Cael mynediad at interniaethau wedi'u hariannu'n llawn*. Rhoi cyfle i chi ddangos eich sgiliau i gyflogwyr, ac archwilio eich opsiynau, wrth lunio eich CV a magu eich hyder.
* Cyllid cyfyngedig sydd ar gael; bydd ceisiadau'n cael eu hasesu a'u hadolygu yn erbyn meini prawf penodol. Siaradwch ag aelod o'r tîm i gael rhagor o wybodaeth.
Sut i gymryd rhan?
Cofrestrwch eich diddordeb drwy gwblhau ein Ffurflen Mynegi Diddordeb ar gyfer yr Rhaglen Cymorth i Raddedigion.
Cymorth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Gydol Oes
Hyd yn oed os ydych yn ddigon ffodus i fod eisoes wedi sicrhau swydd ar ôl graddio, os byddwch mewn sefyllfa nes ymlaen lle mae angen cymorth arnoch, byddwn yma i chi o hyd.
Rydym yn cynnig cymorth parhaus ynghylch gyrfaoedd a chyflogadwyedd i'n cymuned o gyn-fyfyrwyr, ni waeth pryd graddioch chi. Efallai y byddwch yn chwilio am newid cyfeiriad neu byddwch wedi colli eich swydd, ond fel cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, byddwn yma i chi o hyd! Felly cofiwch gofrestru.
Mae ein graddau yn agor drysau, helpwch ni i brofi hynny!
Tua 15 mis ar ôl i chi raddio, gofynnir i chi gwblhau arolwg Hynt Graddedigion, sef arolwg byr a di-enw, yn gofyn a ydych chi'n gweithio, yn astudio, yn gwirfoddoli neu'n gwneud rhywbeth arall.
Mae canlyniadau'r arolwg Hynt Graddedigion yn helpu ein myfyrwyr presennol a'n darpar fyfyrwyr i gael cipolwg gwerthfawr ar ba opsiynau gyrfa sydd ar gael ac yn galluogi'r Brifysgol i ddeall sut y gellir hyrwyddo cyrsiau'n effeithiol.
Mae'r ffigurau o'r arolwg hefyd yn effeithio ar safle Abertawe yn Nhablau Cynghrair y Prifysgolion ac yn effeithio ar enw da Prifysgol Abertawe a'i graddedigion.