Mae Prifysgol Abertawe yn arloesi dull newydd o greu cysylltiad â’r gymuned ar gyfer y Brifysgol a busnesau lleol drwy wyddoniaeth. Mae Oriel Science, canolfan wyddoniaeth gyntaf y DU sy’n cael ei rhedeg gan brifysgol, ac sy’n cael ei harwain gan ymchwil, wedi cael ei dylunio fel lleoliad y gall ymchwilwyr a’r gymuned gyfuno, a ble gall drigolion gael mynediad agos at yr ymchwil.
Arddangosodd Oriel Science ei hymchwil am y tro cyntaf ar ffurf oriel dros dro mewn siop wag yn Abertawe, gan gynnig lle unigryw a llawn dychymyg a phrofiad ymarferol i unrhyw un â diddordeb mewn dysgu mwy am wyddoniaeth.
Dywedodd y ffisegydd o Brifysgol Abertawe, yr Athro Chris Allton, a Chyfarwyddwr Oriel Science,
“Roeddem ni am roi llwyfan i ryfeddodau gwyddoniaeth i genedlaethau o ymchwilwyr STEM y dyfodol yng Nghymru. Yn ystod 100 niwrnod cyntaf ers ei hagor, croesawodd Oriel Science 17,000 o oedolion a phlant, nad oedd llawer ohonynt wedi rhyngweithio â'r Brifysgol a'i hymchwil o'r blaen. Cynigodd hyn dystiolaeth aruthrol fod dyhead am wybodaeth wyddonol yn ein cymuned.”
I adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae'r Brifysgol yn lansio lleoliad Oriel Science parhaol yng nghanol dinas Abertawe. Bydd y ganolfan Oriel Science newydd yn cynnig lle ysbrydoledig lle gall pobl ifanc ymgysylltu â gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf gan y Brifysgol a chan busnesau lleol.
Meddai'r Athro Allton, “Bydd ein lleoliad Oriel Science newydd yn cynnig amgylchedd lle gall pobl ifanc ddychmygu eu gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, yma yng Nghymru."
Gweler ein fideo llawn gwybodaeth sy'n arddangos ein gweledigaeth.
Beth gall Oriel Science ei wneud i'ch busnes chi?
- Darparu eich gweithlu cymwys ar gyfer y dyfodol
Mae Oriel Science yn ysbrydoli myfyrwyr i ddychmygu eu gyrfaoedd yn y dyfodol, gan eu hannog yn yr ysgol ac i barhau i astudiaethau pellach. Y myfyrwyr hyn yw'r ddawn a fydd yn datblygu'n weithlu cymwys y rhanbarth. Bydd cydweithio ag Oriel Science a'r Brifysgol yn helpu i warantu y cewch bobl ifanc gymwys a phriodol ar gyfer anghenion eich busnes. - Cysylltwch eich cwmni ag arloeswyr y Brifysgol, grwpiau ymchwil a chyfleoedd cyllido
Er enghraifft, rhoddodd tîm Oriel Science gwmni gweithgynhyrchu lleol mewn cysylltiad ag ASTUTE 2020, sef prosiect a arweinir gan Brifysgol Abertawe gwerth £22.7m sy'n galluogi arloesedd mewn gweithgynhyrchu'r dyfodol. - Blaen siôp hynod weladwy i'ch sefydliad
Drwy weithio mewn partneriaeth â ni, gallwch roi hwb i welededd eich sefydliad drwy gynnig presenoldeb mewn lleoliad mawreddog, cydnabyddiaeth ar wal y noddwyr, cysylltiadau â deunydd marchnata eich cwmni, tablau gwybodaeth a gwahoddiadau i'n digwyddiadau unigryw a chyfraddau gostyngedig i logi lle ar gyfer digwyddiadau*
*Mae'r buddion yn dibynnu ar lefel y nawdd
Rydym yn annog busnesau i ymuno â nifer gynyddol o gefnogwyr sydd wedi dewis Oriel Science fel eu partner cymunedol ac addysgol.
Gyda'n gilydd, gallwn greu lle lle bydd angerdd cenedlaethau'r dyfodol am ddarganfod yn cael ei feithrin a'i fywiogi.
Os hoffech chi fod eich busnes chi'n elwa o gydweithio ag Oriel Science, cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyrchu adnoddau ac arbenigedd Prifysgol Abertawe, cysylltwch â thîm Ymgysylltu Busnes Prifysgol Abertawe drwy ffonio 01792 606060 / neu e-bostio business.enquiries@abertawe.ac.uk