Cronfa Dinasyddiaeth Weithgar yn dwyn blas Lladin i Abertawe
Mae Prosiect Llythrennedd Iaith Saesneg yn fenter gan Ieithoedd Modern a Chyfieithu Prifysgol Abertawe, sydd wedi cynnwys dysgwyr Saesneg a Sbaeneg mewn cyfnewidfa ddiwylliannol ddynamig ers Tachwedd 2020.
Mae’r Prosiect, sy’n cynnwys myfyrwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, yn canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr annibynnol trwy gyd-ddylunio ac asesu. Mae’r Prosiect hefyd yn cael ei alw’n Brosiect Llythrennedd i Siaradwyr Sbaeneg ac mae yn ei drydedd flwyddyn lwyddiannus.
Mae’r cyllid, trwy Gronfa Dinasyddiaeth Weithgar y Cyngor Prydeinig, yn helpu staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe i ymgysylltu â cheiswyr lloches a ffoaduriaid a hwyluso dysgu Saesneg mwy effeithiol.
Ac yntau’n chwalu’r holl rwystrau a orfododd Covid-19, ganed y prosiect yn 2020 yn groes i’r disgwyl, ar ffurf menter ar-lein yn cysylltu myfyrwyr Sbaeneg o Brifysgol Abertawe â cheiswyr lloches, ffoaduriaid a theuluoedd mudol o America Ladin a Sbaen. Cynhaliwyd sesiynau sgwrsio Saesneg trwy gyfarfod ar Zoom tan 2021. Yn wreiddiol, roedd prif weithgareddau’r prosiect ar ffurf sesiynau mentora, ond mae wedi esblygu i ymgorffori amrywiaeth eang o weithgareddau, fel dosbarthiadau meistr ar America Ladin, sesiynau lles, sgyrsiau ar iachau mewnol, iechyd meddwl, dechrau busnesau bwyd Lladin a gweithdai Saesneg i blant Sbaeneg eu hiaith.
Cyflwynwyd rhai o’r gweithdai hyn gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ac mae’r prosiect hefyd yn elwa o gydweithrediadau a sefydlwyd eisoes gyda mudiadau trydydd sector yn lleol ac ar draws y DU.
Roedd twf anhygoel y prosiect yn bosibl ar ôl cael cymorth gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (2021-2022). Fe wnaeth hyn alluogi arweinwyr y prosiect i ddatblygu agenda o weithgareddau’n gysylltiedig â dinasyddiaeth weithredol. Nod y prosiect eleni oedd gwella hyder a sgiliau cyfathrebu, Saesneg a Sbaeneg, 35 o’r rhai sy’n cymryd rhan: 15 ceisiwr lloches a 25 myfyriwr. Denodd y prosiect gyfranogwyr o gymuned y ffoaduriaid a cheiswyr lloches Sbaenaidd, ar y cyd â phartneriaid allanol: The Vavengers, Canolfan Gymunedol Affricanaidd, (ACC), Newid Naratif VAWG, dan arweiniad Deysi Carrillo, Ysgol Gynradd Brynhyfryd a’r darparwr lles o Abertawe, Med.Land.
Llywiwyd y prosiect gan ymchwil seiliedig ar dystiolaeth, gan fynd i’r afael ag angen cydnabyddedig gan y cyfranogwyr wrth iddynt fynegi heriau am ddysgu Saesneg yn effeithiol, a diffyg ymgysylltiad â gwrandawyr tosturiol.
Ers dechrau’r prosiect, cynhaliwyd dros 40 sesiwn, cyflogwyd dau gynorthwyydd ymchwil, gosodwyd un intern mewn mudiad trydydd sector yn Abertawe a gosodwyd myfyriwr arall mewn ysgol yn hwyluso cymorth darllen i blant Sbaeneg eu hiaith. Hefyd, mae’r prosiect wedi cyrraedd dros 30 o geiswyr lloches a mudwyr dros bron i dair blynedd.
Mae’r prosiect hwn ar agor i bob myfyriwr, nid dim ond o Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, ond o unrhyw bwnc ym Mhrifysgol Abertawe. Dysgwch fwy am yr adran yma.