Mae Prifysgol Abertawe Gwobr Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr fer 2025.

"Mae amrywiaeth a dyfnder y rhestr hir ddisglair eleni yn cynnig profiad darllen gafaelgar. Roedd hi'n her go iawn i'r beirniaid ddethol y rhestr fer derfynol. Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn dathlu awduron hynod ddawnus, pob un yn iau na 40 oed, sy'n ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau llenyddol. Mae rhestr fer 2025 yn amrywiol ac yn gynhwysol: o Sisili yn yr henfyd i goed iasol y nos, mae'n cwmpasu'r hanesyddol, y cyfoes a'r tragwyddol, drwy nofelau, straeon byrion a barddoniaeth, gan arddangos ysgrifennu, arddull ac egni sy'n syfrdanol o ffres." - Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid

Rapture's Road - Seán Hewitt

Rapture’s Road gan Seán Hewitt (Jonathan Cape (Vintage, Penguin Random House))
Yn yr ail gasgliad rhyfeddol hwn, mae Seán Hewitt yn disgrifio taith wedi'i throchi mewn cariad, colled a dieithrio - gan un o 30 llenor gorau dan 30 oed Iwerddon The Sunday Times.

'Points to a bright future for Irish poetry' SUNDAY TIMES

'An exquisitely calm and insightful lyric poet' MAX PORTER

Wrth i'r meddwl grwydro a throi'n rhithiol, mae'r cerddi hyn yn braenaru eu llwybr unigryw eu hunain drwy'r dirwedd. Mae Hewitt yn ein tywys ar daith gerdded yn ein cwsg i mewn i goed y nos, cyflwr breuddwydiol lle caiff natur ei hadfywio a'i difetha bob yn ail, ac mae cyfres o ysbrydion, atgofion a chyfarfodydd yn torri ar draws hunaniaeth ranedig y siaradwr.

Yn dilyn y berthynas ddwyochrog rhwng rhywioldeb cwiar a'r byd naturiol a archwiliwyd ganddo yn Tongues of Fire, mae'r bardd yma yn ein hudo i lesmair: deliriwm dwfn o berlesmair gwyllt lle mae popeth yn cael ei amau, nes bod undod yn cael ei gyflawni o'r diwedd - undod mewn natur ac â natur.

Galarnad am yr hyn a gollwyd, dawns apocalyps ac ail-eni, mae Rapture's Road yn ein tywys drwy'r hyn sy'n guddiedig, yn gyfrinachol, yn aml yn waharddedig, i gyflwr o ecstasi. Mae'n arwain i'r nos laith, drwy gariad a galar marwol ac, ar ddiwedd y daith, cawn gipolwg ar le o dynerwch ac ailddeffro.

Seán Hewitt

Seán Hewitt, Rapture’s Road (Jonathan Cape (Vintage, Penguin Random House))
Ganwyd Seán Hewitt ym 1990. Mae'n awdur dau gasgliad o farddoniaeth, Tongues of Fire a Rapture's Road, a hunangofiant, All Down Darkness Wide. Cydweithredodd â'r artist, Luke Edward Hall, ar 300,000 Kisses: Tales of Queer Love from the Ancient World. Mae Hewitt wedi ennill Gwobr Laurel a Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig ac wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llenor y Flwyddyn The Sunday Times. Mae'n darlithio yng Ngholeg y Drindod Dulyn ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth.

X: @seanehewitt  |  Instagram: @seanehewitt

Glorious Exploits - Ferdia Lennon

Glorious Exploits gan Ferdia Lennon (Fig Tree, Penguin Random House)
Sisili yn yr Henfyd. Dyma GELON: gweledydd, breuddwydiwr, yn hoff o'r theatr. Dyma LAMPO: yn glaf o gariad, yn ddiwaith, angen rhywbeth i'w ddifyrru.

Wedi'u carcharu yn chwareli Syracuse, mae miloedd o Atheniaid wedi'u gorchfygu yn goroesi o drwch blewyn.

Maen nhw'n gwywo yn y gwres llethol, ond nid yw popeth ar goll: maen nhw'n dal i allu adrodd llinellau o drasiedïau Groeg wrth i Lampo a Gelon eu temtio â photeli croen gafr llawn gwin a sborion bwyd.

Ac felly mae syniad yn cael ei eni. Wedi'r cwbl, gallwch chi gasáu'r goresgynwyr ond dal i garu eu barddoniaeth.

Mae'n feiddgar. Efallai ei fod hyd yn oed yn beryglus. Ond fel popeth da mewn bywyd - cariad, cyfeillgarwch, celfyddyd ei hun - bydd yn datgelu'r agweddau gwaethaf a gorau ar natur ddynol.

Beth allai fynd o'i le?

Ferdia Lennon - Credyd Llun Conor Horgan

Ferdia Lennon, Glorious Exploits (Fig Tree, Penguin Random House)
Ganwyd a magwyd Ferdia Lennon yn Nulyn. Mae ganddo BA mewn Hanes a'r Clasuron o Goleg y Brifysgol Dulyn ac MA mewn Ffuglen Rhyddiaith o Brifysgol Dwyrain Anglia. Glorious Exploits yw ei nofel gyntaf. Un o werthwyr gorau The Sunday Times, cafodd ei haddasu ar gyfer BBC Radio 4 ac enillodd Wobr Waterstones am Waith Ffuglen Gyntaf yn 2024. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer ym Mharis, mae bellach yn byw yn Norwich gyda'i wraig a'u mab. [Cydnabyddiaeth llun: Conor Horgan]

Instagram: @ferdialennon

The Safekeep - Yael van der Wouden

The Safekeep gan Yael van der Wouden (Viking, Penguin Random House)
Mae'n 15 mlynedd ers yr ail ryfel byd ac mae Isabel wedi creu bywyd unig o ddisgyblaeth a threfn ddyddiol ddiwyro iddi hi ei hun yng nghartref gwledig ei mam ddiweddar, lle mae pob fforc a gair yn ei le cywir. Ond caiff hyn i gyd ei droi ben i waered wrth i'w brawd Louis gyrraedd cartref Isabel, gyda'i gariad ddiras newydd, Eva – y mae wedi'i gwahodd i aros am y tymor...

Yn ngwres tesog yr haf, mae angen taer Isabel am reolaeth ar fin berwi. Mae'r hyn sy'n digwydd rhwng y ddwy fenyw yn arwain at ddatgeliad sy'n bygwth datod popeth mae hi erioed wedi'i wybod.

Yael van der Wouden (c) Roosmarijn Broersen

Yael van der Wouden, The Safekeep (Viking, Penguin Random House UK)
Awdur ac athro yw Yael van der Wouden. Ar hyn o bryd mae hi'n darlithio mewn ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth gymharol yn yr Iseldiroedd. Cafodd ei thraethawd ar hunaniaeth Iseldiraidd ac Iddewiaeth, "On (Not) Reading Anne Frank", sylw nodedig yn The Best American Essays 2018. The Safekeep yw ei nofel gyntaf a phrynwyd yr hawl i'w chyhoeddi yn sgîl cystadlu brwd  rhwng naw cyhoeddwr yn y DU a'r UD mewn arwerthiant. Gwerthwyd yr hawliau mewn 12 gwlad arall. Cyrhaeddodd The Safekeep restr fer Gwobr Booker 2024. [Cydnabyddiaeth llun: Roosmarijn Broersen]

Instagram: @yaelwouden  |  Gwefan: www.yaelvanderwouden.com

I Will Crash - Rebecca Watson

I Will Crash gan Rebecca Watson (Faber & Faber)

It was a peace offering, I knew that

you don’t appear on someone’s doorstep uninvited, saying Alright
unless you want to make amends

Mae'n chwe blynedd ers y tro diwethaf i Rosa weld ei brawd. Chwe blynedd ers y tro diwethaf iddynt siarad. Chwe blynedd ers y tro diwethaf iddynt ffraeo. Chwe blynedd ers iddi roi'r gorau i'r syniad bod ganddi frawd.

Mae hi wedi treulio'r amser hwnnw’n  osgoi meddwl amdano. Peidio â chofio am eu plentyndod. Peidio â sôn am y straeon hynny, hyd yn oed wrth y bobl mae hi'n eu caru.

Nawr, mae'r pellter roedd hi wedi'i greu mor ofalus rhyngddynt wedi chwalu. All hi ddod o hyd i ffordd o gymodi - maddau, cael maddeuant - pan fo'r gorffennol mae hi wedi gweithio mor galed i'w ffrwyno yn bygwth gorlifo i'r presennol.

Gan awdur clodwiw little scratch, dyma nofel emosiynol, hynod onest am sut rydym yn caru, sut rydym yn galaru a sut rydym yn maddau.

Rebecca Watson (c) Alice Zoo

Rebecca Watson, I Will Crash (Faber & Faber)
Rebecca Watson yw awdur little scratch, a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Goldsmith a Gwobr Desmond Elliott. Bu'n un o 10 nofelwr sy'n cyhoeddi eu nofel gyntaf gyda The Observer yn 2021. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn TLS, The Guardian, Granta ac mewn cyhoeddiadau eraill. Yn 2018, cafodd ei chynnwys ar restr fer gwobr y White Review  am stori fer. Mae hi'n gweithio'n rhan-amser fel Golygydd Cynorthwyol y Celfyddydau yn y Financial Times ac yn byw yn Llundain. [Cydnabyddiaeth llun: Alice Zoo]

X: @rebeccawhatsun  |  Instagram: @rebeccawhatsun

Moderate to Poor, Occasionally Good - Eley Williams

Moderate to Poor, Occasionally Good gan Eley Williams (4th Estate)

Mae nofelydd Ifanc Gorau Prydain Granta ac awdur uchel ei fri Attrib. and other stories, Eley Williams, yn ôl gyda chasgliad gwefreiddiol o straeon byrion sy'n archwilio natur perthnasoedd, rhai mynwesol a rhai byrhoedlog - o drechafwriaeth hawdd dylyfu gên heintus i erchylltra gwên sy'n para eiliad yn rhy hir.

Mae artist braslun llys wrth ei fodd yn creu portreadau ar bapur o'i gariad ond datgelir bod bwriadau mwy tywyll a chymhleth i'w angen am dynnu lluniau a fydd yn para am byth. Mae cariad plentyn am sant ar iard yr ysgol yn nodi gwrthdaro â realiti corff newidiol yr arddegwr. Mewn straeon eraill, mae golygydd chwerthin artiffisial yn colli ei hyder ac yn gofyn am ymyrraeth ddwyfol, ac mae awdur ysgrifau yn arnodi ei feddyliau am Keats ar ffurf cyngor rhyw o'r rhyngrwyd.

Mae Moderate to Poor, Occasionally Good yn byrlymu ag iaith fywiog ac arbrofi dyfeisgar â ffurf ac mae'n ystyried syniadau o ddireidi, dilysrwydd a gofal wrth iddo ddwyn perthnasoedd i gyfrif: eu camddealltwriaethau melys, eu myfyrdodau wedi'u suro, dymuniadau cwiar wedi’u gwireddu ac anadlau wedi'u rhannu a'u dal.

Eley Williams (c) Alice Zoo

Eley Williams, Moderate to Poor, Occasionally Good (4th Estate)
Enillodd casgliad Eley Williams, Attrib. and Other Stories (2017) Wobr Republic of Consciousness a Gwobr Goffa James Tait Black. Enillodd ei nofel, The Liar's Dictionary, Wobr Betty Trask 2021, cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Desmond Elliott a rhestr Llyfr y Flwyddyn The Guardian. Yn 2023, cafodd ei dewis yn un o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain gan Granta. Mae ei gwaith wedi'i gyhoeddi mewn sawl cyfnodolyn ac antholeg ac mae Radio 4 wedi'i chomisiynu i ysgrifennu straeon a chyfresi ffuglen. Mae hi'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth. [Cydnabyddiaeth llun: Alice Zoo]

Instagram: @eleywilliams

The Coin - Yasmin Zaher

The Coin gan Yasmin Zaher (Footnote Press)
Nofel hyderus a beiddgar am fywyd menyw Balestinaidd ifanc yn ymddatod wrth iddi addysgu mewn ysgol ganol yn Efrog Newydd, lle caiff ei rhwydo mewn cynllun i ailwerthu bagiau Birkin, gan ymdrechu i adennill rheolaeth dros ei chorff a’i meddwl.

Adroddir The Coin gan fenyw Balestinaidd gyfoethog â chanddi steil dilychwyn ac arferion glendid gorfanwl. Ond eto, mae'r hunan perffaith, y bywyd perffaith yn parhau y tu hwnt i'w chyrraedd: nid oes modd iddi gael gafael ar ei hetifeddiaeth, mae ei mamwlad yn bodoli yn ei chof yn unig, ac ymddengys fod ei hymgais i ffynnu yn America yn anobeithiol o'r dechrau.

Yn Efrog Newydd, mae hi'n ymdrechu i fwrw gwreiddiau. Mae hi'n addysgu mewn ysgol i fechgyn difreintiedig, lle mae ei dulliau anghyffredin yn croesi ffiniau. Mae hi'n cwrdd â thwyllwr digartref, ac mae'r ddau'n cymryd rhan mewn cynllun pyramid yn ailwerthu bagiau Birkin.

Ond mae America yn ei ffrwyno - ei phenderfynoldeb, ei rhywioldeb, ei hegwyddorion. Mewn ymgais i adennill rheolaeth, mae hi'n ffurfio obsesiwn â phurdeb, glendid a hunan-ddelwedd, oll wrth dynnu ei myfyrwyr i mewn i'w hobsesiynau. Mewn diweddglo bythgofiadwy, mae atgofion o'i phlentyndod yn cyd-daro â'i diffyg dinasyddiaeth diriaethol a dirfodol ac mae'r adroddwr yn ymddatod mewn modd trawiadol.

Mewn rhyddiaith gyfareddol a synhwyraidd, mae The Coin yn archwilio natur a gwareiddiad, harddwch a chyfiawnder, dosbarth a pherthyn - oll wrth osgoi moesoli hawdd. Herfeiddiol, eironig a dengar, mae The Coin yn nodi cyrhaeddiad llais llenyddol pwysig newydd.

Yasmin Zaher (c) Willy Somma

Yasmin Zaher, The Coin (Footnote Press)
Mae Yasmin Zaher yn newyddiadurwr ac yn awdur Palesteinaidd a anwyd yn Jerusalem ym 1991. The Coin yw ei nofel gyntaf. [Cydnabyddiaeth llun: Willy Somma]

yr hyn a ddywed y beirniaid

Namita Gokhale yn siarad am Rapture's Road gan Seán Hewitt:
"Yn Rapture's Road, gwnaeth gwaith teimladwy Seán Hewitt siarad â mi drwy rythm hyderus y penillion a'u cysgodion crynedig. Dyma farddoniaeth sy'n credu mewn harddwch a phŵer geiriau. Mae'r tirweddau nosol hyn, wedi'u trochi mewn cariad a cholled, yn adlewyrchu sicrwydd crefft drylwyr."

Max Liu yn siarad am Glorious Exploits gan Ferdia Lennon:
"Mae nofel gyntaf Ferdia Lennon yn nodi cyrhaeddiad llais hyderus ac uchelgeisiol mewn ffuglen gyfoes. Drwy gyfuno lleoliad hynafol ag arddull gyfoes, mae'n cynnig safbwynt newydd ar y nofel hanesyddol, gan adrodd stori ei gymeriadau ag egni a dyfeisgarwch diderfyn. Cytunodd y beirniaid fod y nofel yn ddigrif ac yn deimladwy a'i bod yn cyfleu neges am bwysigrwydd y celfyddydau na allai fod yn fwy amserol."

Mary Jean Chan yn siarad am The Safekeep gan Yael van der Wouden:
"Mae The Safekeep, yn nofel gyntaf â stori sydd wedi’i chynllunio’n ofalus iawn , gan lwyddo i guddio'r troad olaf yn y plot nes bod y gwir reswm am bresenoldeb Eva ym mywyd Isabel yn cael ei ddatgelu o'r diwedd. Dyma nofel hanesyddol sy'n teimlo'n bwysig ac yn gyfoes o ran ei themâu canolog o bŵer, awtonomiaeth a dyhead. Mae ysgrifennu Van der Wouden yn hynod bwerus a threiddiol ac yn hyfryd o gywrain."

Jan Carson yn siarad am I Will Crash gan Rebecca Watson:
"Mae I Will Crash yn waith syfrdanol sy'n dehongli themâu tragwyddol trawma, galar ac anghydfod teuluol o safbwynt ffres a swynol yn aml. Mae meistrolaeth Watson ar ffurf a gofod gwyn yn creu profiad darllen ymdrochol sy'n gwahodd y darllenydd i dreiddio’n ddwfn i galon annifyr y stori. Gwnaeth arddull unigryw'r llyfr hwn argraff arbennig arnon ni."

Yr Athro Daniel Williams yn siarad am Moderate to Poor, Occasionally Good gan Eley Williams:
"Gwnaeth amrywiaeth ac ehangder dychymyg y straeon yn y casgliad hwn ennyn fy niddordeb. Boed yn disgrifio artist llys ar 'blind dêt' darlledwr yn myfyrio ar ddamweiniau bywyd wrth ddarllen rhagolygon tywydd y môr, neu ymateb plentyn i ddamwain ddomestig ddifrifol, mae Eley Williams wrth ei bodd gyda'r ffyrdd annisgwyl, digrif ac weithiau annifyr y gall geiriau gyfleu - a chuddio - ystyr."

Jan Carson yn siarad am The Coin gan Yasmin Zaher:
"Aeth The Coin y tu hwnt i'n holl ddisgwyliadau. O'r dudalen gyntaf, cawson ni ein cyfareddu gan brif gymeriad Zaher sy'n rhyfeddol o obsesiynol, yn cythruddo o bryd i'w gilydd, ond bob amser yn ennyn diddordeb. Rodden ni'n dwlu'n benodol ar ysgrifennu cryno a chywrain Zaher a'i gallu i'n syfrdanu gyda stori sy'n teimlo ar yr un pryd yn hollol gredadwy ac yn rhyfeddol o wallgof.