Cerflun o ben Dylan Thomas gyda chwe llyfr drws nesaf iddo ar silff

Mae rhestr fer y wobr fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd ar gyfer awduron ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - yn cael ei chyhoeddi heddiw. Mae'n cynnwys chwe llais eithriadol sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys tri llyfr cyntaf, y mae eu hysgrifennu'n arbrofi â ffurf, strwythur ac arddull i archwilio hunaniaeth, rhywedd, galar a rhywioldeb.

Mae'r wobr ryngwladol hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod dawn lenyddol eithriadol gan awduron 39 oed neu'n iau, ac yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'n dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Mae'r rhestr fer yn cynnwys pedair nofel, ynghyd â chasgliad o straeon byrion a chasgliad o farddoniaeth:

  • Rapture's Road  gan  Seán Hewitt (Jonathon Cape, Vintage, Penguin Random House) – casgliad o farddoniaeth (Y DU/Iwerddon)
  • Glorious Exploits gan Ferdia Lennon (Fig Tree, Penguin Random House) - nofel (Iwerddon)
  • The Safekeep gan Yael van der Wouden (Viking, Penguin Random House UK) – nofel (Yr Iseldiroedd)
  • I Will Crash gan Rebecca Watson (Faber & Faber) - nofel (Y DU)
  • Moderate to Poor, Occasionally Good  gan Eley Williams (4th Estate) – casgliad o straeon byrion (Y DU)
  • The Coin gan Yasmin Zaher (Footnote Press) - nofel (Palesteina)

Meddai Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid: "Mae amrywiaeth a dyfnder y rhestr hir ddisglair eleni yn cynnig profiad darllen gafaelgar. Roedd hi'n her go iawn i'r beirniaid ddethol y rhestr fer derfynol. Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn dathlu awduron hynod ddawnus, pob un yn iau na 40 oed, sy'n ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau llenyddol. Mae rhestr fer 2025 yn amrywiol ac yn gynhwysol: o Sisili yn yr henfyd i goed iasol y nos, mae'n cwmpasu'r hanesyddol, y cyfoes a'r tragwyddol, drwy nofelau, straeon byrion a barddoniaeth, gan arddangos ysgrifennu, arddull ac egni sy'n syfrdanol o ffres."

O'r pedair nofel ar y rhestr hir eleni, mae tri ohonynt yn nofelau cyntaf neilltuol gan awduron sy'n creu argraff ar y byd llenyddol gyda'u cyhoeddiadau cyntaf: Mae Yasmin Zaher o Balesteina yn tynnu ar brofiadau personol i ddadansoddi natur a gwareiddiad, harddwch a chyfiawnder, dosbarth a pherthyn, mewn archwiliad trawiadol o hunaniaeth a threftadaeth yn The Coin; gyda'i arddull ysgrifennu angerddol, hynod ddigrif a dwys, mae Ferdia Lennon o Iwerddon yn tywys y darllenydd ar daith drwy amser i Sisili yn 412 BC yn ei nofel sydd wedi ennill clod mawr, Glorious Exploits; ac mae Yale van der Wouden o'r Iseldiroedd yn dod â drama ddomestig i gefn gwlad yr Iseldiroedd yn ystod haf 1961, gydag archwiliad pwerus o ôl-effeithiau’r Ail Ryfel Byd yn The Safekeep. Yn cwblhau'r set o nofelau ar y rhestr fer y mae gwaith Rebecca Watson o'r DU, I Will Crash lle mae'n rhannu stori ingol o drawma a chof teuluol drwy ddefnydd syfrdanol o ffurf ac iaith arbrofol.

Mae'r rhestr fer yn dathlu ffurfiau eraill, gan gynnwys gwaith yr awdur straeon byrion, Eley Williams, enillydd Gwobr Granta am y Nofelydd Prydeinig Ifanc Gorau, sy'n cael ei chydnabod am ei chasgliad newydd, Moderate to Poor, Occasionally Good, a ganmolwyd am ei wreiddioldeb, ei gynildeb a'i sylw i fanylion, ac am bortreadu teithi mewnol y meddwl. Cydnabyddir Seán Hewitt am ei gasgliad o farddoniaeth, Rapture's Road, sy'n archwilio'r berthynas ddwyochrog rhwng rhywioldeb cwiar a'r byd naturiol drwy daith i 'goed y nos' hypnotig, sy'n llawn delweddau beiddgar a ffurf a reolir yn gywrain.

Dewiswyd teitlau'r rhestr fer gan banel beirniadu dan gadeiryddiaeth Namita Gokhale, yr awdur arobryn o India sydd wedi cyhoeddi dros 25 o lyfrau ffuglen a ffeithiol (Paro: Dreams of Passion, Things to Leave Behind) yn ogystal â bod yn gyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur uchel ei bri. Y beirniaid eraill yw: Yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe; Jan Carson, nofelydd ac awdur arobryn (The Fire Starters, The Raptures); Mary Jean Chan, awdur a enillodd Wobr Costa Book ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn y gorffennol (Flèche, Bright Fear); a Max Liu, beirniad llenyddol a chyfrannwr at The Financial Times, The i a BBC Radio 4.

Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn cynnal digwyddiad i ddathlu'r rhestr fer ddydd Mercher 14 Mai (Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas) a chyhoeddir yr enillydd yn ystod seremoni yn Abertawe ddydd Iau 15 Mai.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Guy Gunaratne a Kayo Chingonyi.

Rhannu'r stori