Mae ein gwaith ymchwil yn edrych ar ddŵr croyw a heli a'i nod yw gwella dealltwriaeth wyddonol a datblygu datrysiadau peirianneg effeithiol i broblemau yn y byd go iawn.
Rydym yn gweithio gydag arianwyr academaidd a diwydiant ar ystod eang o bynciau gan gynnwys: trin dŵr; y cyflenwad dŵr; rheoli dalgylchoedd; llifogydd arfordirol a llifogydd yn sgil glaw; erydu arfordirol a ffynonellau ynni adnewyddadwy'r môr.
Rydym yn defnyddio technegau modelu cyfrifiadurol, mae gennym labordai o'r radd flaenaf (CWATER a Labordai Arfordirol) ac mae gennym ystod eang o gyfarpar mesur ar gyfer gwaith maes arfordirol a morol.