Yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, mae’r Athro Davies wedi gweithio yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd ac yn fwy diweddar yn yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth lle gwnaeth ymgymryd â nifer o swyddi arweinyddol, gan gynnwys cyfnodau fel Cyfarwyddwr Ymchwil Athrofaol ac fel Pennaeth Ysgol.

Mae e wedi gweithio ym maes dysgu proffesiynol i athrawon ers dros ddegawd, ac yn angerddol dros weithio gydag ymchwilwyr ac ymarferwyr i adeiladu capasiti ymchwil a meithrin cydweithio.
 
Meddai, ‘Mae’n fraint i mi gael arwain y Ganolfan ac adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed gan Dr Russell Grigg a nifer o gydweithwyr eraill ers sefydliad y Ganolfan. Rwyf am i’r Ganolfan barhau i ddatblygu i fod yn bwerdy ar gyfer ymchwil addysgol ac yn ganolbwynt ar gyfer deialog barhaus rhwng meysydd ymchwil ac ymarfer’.
 
Tasg gyntaf yr Athro Davies yn ei swydd oedd trefnu Cynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer, a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024. Fe ddaeth dros 120 o gynadleddwyr at ei gilydd i drafod eu gwaith a rhannu syniadau ar y thema ''Gwneud Gwahaniaeth': Creu Effaith Trwy Ymchwil ac Ymholi'. Dysgwch fwy yn ein blog Cynhadledd Flynyddol y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer 2024. 
 
 
I gysylltu â’r Ganolfan a dysgu mwy am ein gwaith, cysylltwch â: crip@abertawe.ac.uk
 
 

Rhannu'r stori