Yn ddiweddar, cwblhaodd y fam a’r ferch, Sharon ac Annelise, eu graddau mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gyflawni canlyniadau rhagorol.
Dilynodd Annelise Hall ei hangerdd at ysgrifennu a phwnc y Gyfraith trwy ymrestru ar gwrs y BSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Abertawe.
Yma, gydag anogaeth a chefnogaeth ei darlithwyr, cwblhaodd ei thraethawd hir ar bwnc Polisi Amgylchedd Gelyniaethus. Ar ôl graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2021, mae wedi mynd ymlaen i gwblhau MPhil mewn Ymchwil Droseddegol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Roedd gan Annelise Hall y canlynol i’w ddweud:
“Gwnes i wir fwynhau fy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y staff yn gefnogol ac yn ddiddorol, gwnaethant i mi deimlo’n gartrefol a rhoddont sylfaen go iawn i mi ar gyfer y bennod nesaf ar fy nhaith academaidd.”
Graddiodd mam Annelise, Sharon Mair, yn seremoni ôl-raddedig Abertawe ym mis Rhagfyr 2022, gyda rhagoriaeth yn ei MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg.
Mae cefndir proffesiynol Sharon yn cynnwys gwaith gyda’r GIG a Llywodraeth Leol, ynghyd â phrofiad fel Ynad a Phrif Ynad. Mae Sharon wedi gweithio gyda chyrff cyhoeddus yn cynnig cymorth a gwasanaethau ymchwiliadol cynhwysfawr ar draws nifer o sectorau.
Ar sail y cyflawniadau hyn, yn hytrach na gofynion y cymwysterau academaidd arferol, derbyniwyd Sharon i’r rhaglen a rhagorodd wedyn yn ei gradd ôl-raddedig.
Dywedodd Sharon Mair y canlynol am ei phrofiad yn Abertawe:
“Ar ôl astudio ar-lein (yn ystod y cyfnod clo) ac yna wyneb yn wyneb, mae’n amlwg i mi fod Prifysgol Abertawe yn gwneud, nid dim ond dweud, gan ddangos ymrwymiad cyson i’w myfyrwyr, gyda buddsoddiad personol diysgog yng nghyflawniad pob myfyriwr yn sail i hynny.”
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Debbie Jones y canlynol am gyflawniadau rhagorol y ddwy:
“Mae Annelise a Sharon yn enghreifftiau disglair o fenywod a aeth ati i gyflawni eu nodau academaidd. Ar ran yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, mae hi wedi bod yn bleser addysgu'r ddwy ohonynt a dathlu eu llwyddiannau gyda nhw. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”