Betty Campbell and Vaughan Gething mural, Singleton Campus

Gwnaeth Dr Lella Nouri, mewn cydweithrediad â Theresa Ogbekhiulu, arwain myfyrwyr i ddefnyddio graffiti i dynnu sylw at bwysigrwydd cynrychiolaeth a dathlu hanes Pobl Dduon ym Mhrifysgol Abertawe.

Crëwyd y murlun hwn fel rhan o Fenter Flip the Streets sy'n cefnogi grwpiau cymunedol i wneud safiad gweledol yn erbyn casineb o bob math ar ein strydoedd. Mae mwy o wybodaeth am y fenter hon a sut y gallwch chi gymryd rhan yma.

Cafodd y Murlun Dathlu Hanes Pobl Dduon ar wal Tŷ'r Undeb ei greu i anrhydeddu a dathlu ffigyrau Duon Cymreig blaenllaw sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at ein cymdeithas.  Yn ystod sesiwn gweithdy, bu myfyrwyr o Brifysgol Abertawe yn ystyried cyfraniadau blaenorol a phresennol dynion a menywod Duon arloesol yng Nghymru. Dewison nhw Betty Campbell, y Pennaeth Ysgol cyntaf yng Nghymru i fod yn Ddu, a Vaughan Gething, Arweinydd Du cyntaf Llafur Cymru, a Phrif Weinidog Du cyntaf Cymru, fel ffigyrau canolog y murlun, gan gydnabod eu pwysigrwydd wrth fyfyrio ar ein hanes a rennir, ein presennol, a'r gwerthoedd parhaus y maent yn eu hymgorffori.

Ar y diwrnod, gwahoddwyd myfyrwyr â diddordeb yn y murlun a oedd yn pasio heibio i gymryd rhan, dangos eu cefnogaeth, siarad am eu profiadau a'r hyn y mae'r murlun yn ei olygu iddyn nhw.  Mae'r murlun hwn yn fwy na darn gweledol yn unig; mae'n dyst pwerus i rym cydweithio, cynrychiolaeth, meithrin undod, a hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach o'n hanes amrywiol yng Nghymru.

Arweiniwyd y prosiect gan Dr Lella Nouri â chymorth Theresa Ogbekhiulu yn Academi Cynhwysiant Abertawe (SAI), Undeb y Myfyrwyr a gwirfoddolwyr myfyrwyr a staff, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ymdrechion ar y cyd i ddod â mentrau mor ystyrlon yn fyw.

Rydym yn gwahodd pawb i ymweld â'r Murlun Dathlu Hanes Pobl Dduon, i fyfyrio ar gyfraniadau Vaughan Gething a Betty Campbell, ac i ddathlu'r dreftadaeth amrywiol sy'n dylanwadu ar ein cymdeithas a'n cymunedau yng Nghymru.  Mae'r murlun yn rhan o fenter 'Flip the Streets' Dr Nouri, â'r nod o ddefnyddio graffiti i feithrin gwydnwch cymunedol i gasineb, meithrin cynwysoldeb, a defnyddio gwaith celf i ledaenu negeseuon cadarnhaol.

Rhannu'r stori