Ni allwn aros i'ch croesawu i Ddiwrnod Agored Gyrfaoedd y GIG Prifysgol Abertawe, lle gallwch ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am ddod yn fyfyriwr yn Abertawe.

Mae ein diwrnod agored wedi'i gynllunio i roi cipolwg i chi ar y proffesiwn meddygaeth neu ofal iechyd o'ch dewis, gan roi'r cyfle i chi ddarganfod mwy am ein hystod o raglenni a ariennir gan y GIG yn ogystal â'n graddau israddedig Llwybrau at Feddygaeth. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â'ch darlithwyr, sgwrsio â myfyrwyr presennol, mynd o amgylch y cyfleusterau, a chrwydro Abertawe.

Beth am gael y gorau o'r diwrnod trwy ddefnyddio'r wybodaeth isod i gynllunio'ch diwrnod.

Arlwyo

Bydd arlwyo ar gael ar y safle mewn mannau arlwyo dethol.

Darganfod eich ffordd o gwmpas

Byddwch chi'n cael map wrth gyrraedd, neu maen nhw ar ein gwefan

Os hoffech chi archwilio'r ardal leol, rydym wedi creu arweiniad sy'n dangos yr holl leoedd mae ein myfyrwyr presennol yn eu hadnabod ac yn dwlu arnynt

Parcio

Bydd parcio am ddim ar gyfer y diwrnod agored ar Gampws Singleton.