Gan Amira Guirguis
Pan ddes i'n ôl i fyd Addysg Uwch yn fyfyrwraig aeddfed er mwyn cael fy hyfforddi i fod yn fferyllydd, dywedwyd wrthyf fod gradd mewn Fferylliaeth yn basbort byd-eang. Ond ydy hi?
Ces i fy hyfforddi i fod yn llawn cydymdeimlad, cael empathi, cyfathrebu â'm cleifion fel partneriaid a cheisio goresgyn rhwystrau er mwyn rhannu'r penderfyniadau gyda nhw.
Mae fy nhaith hyd yn hyn wedi bod yn llawn hynt a helynt, ond ar y cyfan roedd y rhannau mwyaf boddhaol yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth i'm cleifion a'm myfyrwyr.
Wrth fod yn Gyfarwyddwr y Rhaglen MPharm yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, fy mhrif ofid oedd gweithio gyda thîm yr MPharm er mwyn sicrhau ein bod yn llunio ac yn datblygu cwricwlwm sy'n cynnig yr hyn mae'n ei gymryd i ddod yn wyddonydd sy'n ymarfer, integreiddio'r wyddoniaeth wrth ymarfer, grymuso ein myfyrwyr i reoli risgiau, bod yn hyderus ac yn gymwys, a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar gleifion.
Wrth i bandemig Covid-19 gyrraedd y byd yn annisgwyl, yr hyn a ddaeth i'r amlwg oedd fy natur fel gwyddonydd sy'n ymarfer, a dechreuais feddwl am gleifion bregus a sut gallwn ni ganolbwyntio ein hymdrechion er mwyn sicrhau cysondeb gofal. Ers cwblhau fy PhD ac arbenigo ym maes Cam-drin Sylweddau, fy mhrif ofid yw pobl sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig y sawl y mae angen iddynt ddefnyddio therapi amnewid opioidau dan oruchwyliaeth yn aml, a'r sawl sydd â phroblemau resbiradu. Wrth feddwl yn ôl am sut dechreuodd gwasanaethau helpu'r cleifion hynny'n gyflym iawn ac addasu er mwyn sicrhau cysondeb triniaeth, roedd nifer o broblemau wrth fynd i'r afael â'r ymateb annisgwyl i'r newidiadau hyn. Er enghraifft, mae gwasanaethau wedi creu hyblygrwydd ar sail asesu risg er mwyn galluogi cleifion sefydlog i gasglu digon o fethadon, sy'n therapi amnewid opioidau, i bara am bythefnos er mwyn osgoi ymweliadau aml â gwasanaethau a fferyllfeydd. Ond yn anffodus ac yn drist, roedd achosion o orddosau, marwolaethau, ac ailgyfeirio'r meddyginiaethau hyn at y farchnad anghyfreithlon. Cydweithiais â rhanddeiliaid allweddol er mwyn addysgu, hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth ynghylch sut gallwn ni ddiwallu anghenion y cleifion hynny a gwella eu deilliannau iechyd.
Fel rwyf i wedi'i wneud, mae'r rhan fwyaf o'r fferyllwyr yn y wlad wedi'i wneud hefyd. Gwnaethant weithio mor galed, gan oruchafu problemau megis prinder staff ac weithiau golli staff oherwydd Covid-19. Roedd yn rhaid iddynt weithio mewn amgylcheddau lle'r oedd trafferthion i achub cleifion na wnaethant oroesi oherwydd Covid-19. Roeddent mewn cyfnod goroesi, nid ceisio goroesi eu hunain ond gwneud eu gorau glas i achub eu cleifion.
A heddiw, roeddwn yn teimlo mor falch ac yn freintiedig i gyfrannu at y rhaglen brechu genedlaethol. Defnyddiais y rhinweddau pwysig sef bod yn hyderus, yn gymwys, yn llawn cydymdeimlad a chyfathrebais yn dda â'm cleifion, gan oruchafu rhwystrau iaith, pryderon, anableddau ac anwireddau ynghylch brechlynnau a gwneud gwahaniaeth i fywydau'r cleifion hynny. Ni fyddaf yn anghofio'r cleifion hynny yr oedd yn rhaid imi eu sicrhau nad oes modd iddynt gael COVID-19 o'r brechlyn, y cleifion hynny a oedd yn dweud eu bod yn gweld llawer o bobl yn yr un lle am y tro cyntaf ers misoedd oherwydd eu bod yn gwarchod, y cleifion hynny a oedd wedi colli anwyliaid ac yn cofio'r adegau hyn. Ni fyddaf yn anghofio'r cleifion hynny a ddywedasant "o, ydych chi wedi gorffen? Dyw e ddim yn brifo! Roeddwn i'n meddwl bod y brechlyn yn rhoi loes!" Ni fyddaf yn anghofio'r cleifion hynny a ddangosodd fys bawd pan ofynnais am eu cysyniad i gael y brechlyn. Roedd yn ddiwrnod anhygoel. Gwnaethom gydweithio fel tîm, y meddygon, y fferyllwyr, y nyrsys a llawer o fyfyrwyr a thywyswyr. Un nod oedd gennym, sef "gadewch inni frechu'r genedl, gadewch inni gael ein bywydau arferol eto!"
Gadawais yr ysbyty heddiw ac roeddwn i'n meddwl, ydy Fferylliaeth yn radd sy'n basbort byd-eang? Ydy, rwy'n credu ei bod hi!