Beth yw Therapi Galwedigaethol?

Nod Therapi Galwedigaethol yw gwella gallu rhywun i wneud tasgau bob dydd os ydynt yn cael anawsterau sy'n cael eu hachosi gan newidiadau i'w hiechyd corfforol neu feddwl neu eu lles.

Bydd Therapydd Galwedigaethol yn cymryd ymagwedd gyfannol at y rhwystrau mae rhywun yn eu hwynebu. Wrth wneud hynny, eu nod fydd gwella eu hansawdd bywyd drwy adfer annibyniaeth yn y cartref, yn y gwaith neu eu bywyd cymdeithasol.

DOD O HYD I'CH GOFOD CLIRIO

Poeni am eich canlyniadau arfaethedig, neu eisiau curo'r rhuthr Clirio? Cofrestrwch eich diddordeb nawr, ar gyfer Clirio yn Abertawe. Ewch i'n tudalen Clirio i ddarganfod mwy.

Darganfod mwy am Glirio

Pa yrfaoedd allai fod ar gael i mi pan fyddaf yn graddio?

Pan fyddwch yn graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal i fod yn Therapydd Galwedigaethol cymwys. Bydd hyn yn agor y drws i amrywiaeth o leoliadau gwahanol lle gall Therapydd Galwedigaethol weithio, gan gynnwys: yn y GIG a lleoliadau iechyd eraill, ym maes addysg neu mewn sefydliadau gwirfoddol. Mae llawer o therapyddion galwedigaethol hefyd yn gweithio fel ymarferwyr annibynnol.

Isod, ceir rhagor o wybodaeth am yrfa bosib fel Therapydd Galwedigaethol, o gymhwyso, cyflog a’r berthynas rhwng therapi galwedigaethol a rolau proffesiynol eraill.

SA1

Graddau a Gyllidir yn Llawn

Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr. 

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

Am wybod mwy?

Mae gennym ni gymaint rydym ni am ei rannu â chi, beth am ddarllen ein tudalen cwrs Therapi Galwedigaethol neu gadw lle yn ein diwrnod agored nesaf?