Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mentor Academaidd Personol
Byddwch yn cael Mentor Academaidd a fydd yn un o gronfa o bersonél hyfforddedig sy’n aelodau staff academaidd yr Ysgol Feddygaeth, neu staff clinigol o Fyrddau Iechyd ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion a Chydymaith Meddygol.
Y Mentoriaid Academaidd Personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf tra’n astudio yn yr Ysgol Feddygaeth a gallant roi cymorth ac arweiniad ar faterion amrywiol a allai effeithio ar eich lles, eich presenoldeb a’ch cynnydd academaidd. Gall Mentoriaid Academaidd Personol hefyd eich helpu wrth gynllunio datblygiad personol a rhoi cyngor ar yrfaoedd. Gall eich mentor hefyd eich cyfeirio at wasanaethau lles a gwasanaeth cymorth eraill fel y bo’n briodol.
Swyddog Bywyd Myfyrwyr
Mae ein Swyddog Bywyd Myfyrwyr yn canolbwyntio ar gymorth myfyrwyr ac adnabod myfyrwyr a allai fod angen cael eu cyfeirio at wasanaethau tu fewn i’r Brifysgol a thu allan ohoni, a chyd-weithio â’r myfyrwyr hyn i sefydlu cynllun i leoli eu lles. Mae’r swyddog wedi’i hyfforddi i ddelio â materion amrywiol, o adnabod arwyddion cam-drin domestig a throsedd casineb i hiraeth am adref a materion bugeiliol eraill.
Swyddfa Wybodaeth yr Ysgol Feddygaeth
Mae ein tîm o weinyddwyr a chydgysylltwyr gwybodaeth myfyrwyr wrth law i roi cymorth gyda’ch ymholiadau academaidd a’ch cyfeirio at wasanaethau ychwanegol lle bo angen.