Trosolwg o'r Cwrs
**Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS? Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol**
Mae biocemeg yn hanfodol wrth astudio a thrin clefydau, wrth ddatblygu biocemeg, ac wrth roi sylw i’r perthnasau cymhleth rhwng ein hamgylchedd a ni ein hunain.
Byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd.
Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.
Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.