Trosolwg o'r Cwrs
Mae biocemeg yn hanfodol wrth astudio a thrin clefydau, wrth ddatblygu biocemeg, ac wrth roi sylw i’r perthnasau cymhleth rhwng ein hamgylchedd a ni ein hunain.
Gradd MSci 4-blynedd israddedig uwch yw hon, sy’n ychwanegu blwyddyn ar ben y BSc 3-blynedd, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear. Mae’r rhaglen MSci hon yn dilyn ein cwrs BSc mewn Biocemeg, ond mae’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy. Yn ystod y flwyddyn ychwanegol byddwch yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.
Mae’r radd israddedig uwch hon yn dilyn ein rhaglen BSc Biocemeg gyda blwyddyn ychwanegol er mwyn i chi ddatblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig, uwch. Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy yn y drydedd flwyddyn er mwyn paratoi at y gwaith hwn.
Yn ystod y radd israddedig uwch hon byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau moleciwlaidd ac is-gellog, gan olygu y byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth biocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.
Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.