Trosolwg o'r Cwrs
Microbioleg yw'r gangen o wyddoniaeth sy'n canolbwyntio ar astudio micro-organebau, gan archwilio pob ffurf ar fywyd microsgopig, o facteria i ffyngau, protosoa a hyd yn oed feirysau nad ydynt yn fyw. Ochr yn ochr â hyn, mae imiwnoleg yn astudio'r system imiwnedd a sut mae'r corff dynol yn ei amddiffyn ei hun rhag yr organebau hyn drwy nifer o wahanol lwybrau a phrosesau.
Mae ein graddau rhyngddisgyblaethol yn cyfuno'r ddau faes hyn, gan ganolbwyntio ar sut maent yn rhyngweithio â'i gilydd wrth ymateb i glefydau heintus, yn ogystal ag ystyried anhwylderau a geir o ganlyniad i ddiffyg yn y system imiwnedd. Bydd gweithgareddau diwydiannol ac ymchwil, megis datblygu cyffuriau gwrthficrobaidd newydd, ac imiwno-therapiwteg arloesol yn sicrhau bod y rhaglen yn gysylltiedig ag anghenion y byd go iawn.
Yn ogystal â bod yn hanfodol i'n dealltwriaeth o iechyd a chlefydau, mae microbioleg ac imiwnoleg hefyd yn rhan annatod o ddiwydiannau amrywiol. Mae galw cynyddol am arbenigwyr yn y meysydd hyn, wedi'i sbarduno gan bwyslais cynyddol ar ofal iechyd, biotechnoleg, cynhyrchion fferyllol a sector y gwyddorau bywyd yn ehangach, sy'n cynnig rhagolygon ardderchog i'n graddedigion.