Mae eich bywyd yn y Brifysgol yn dechrau fan hyn
Mae dewis ble i fyw yn un o'r pethau mwyaf cyffrous am fywyd prifysgol. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau llety i fodloni ffordd o fyw, cyllideb a dewis pawb. Os ydych am ddeffro i weld golygfeydd o'r traeth neu am gael eich amgylchynu gan fwrlwm y ddinas, gallwch ddod o hyd i'r lle perffaith i'w alw'n gartref.
Pam Dewis Llety Prifysgol Abertawe?
Nid cael rhywle i fyw yw byw yn llety'r brifysgol - mae'n golygu bod yn rhan o gymuned fywiog a chroesawgar.
Cynnig amser cyfyngedig i fyfyrwyr newydd
Mwynhewch lety fforddiadwy ar Gampws y Bae gyda phrisiau is arbennig ar gyfer ystafelloedd en-suite canolig, sy'n arbed dros £25 yr wythnos i chi.
Mae argaeledd yn gyfyngedig, peidiwch ag oedi! Eisoes wedi gwneud cais? Gallwch chi ddiweddaru eich cais yn rhwydd heb effeithio ar eich dyddiad cyflwyno gwreiddiol.
Gwnewch gais i sicrhau eich ystafell
Allwch chi ddychmygu byw ger y traeth! Mae Campws y Bae'n cynnig mynediad uniongyrchol i lan môr a golygfeydd godidog. Dyma'r hyb ar gyfer yr adran Peirianneg, Rheoli a'r Ffowndri Gyfrifiadol, ond mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw gwrs gan fod gwasanaethau bws uniongyrchol a rheolaidd rhwng y campysau.
Mae'r opsiynau llety'n cynnwys ystafelloedd pâr, en suite, ystafelloedd premiwm ag en suite, ystafelloedd hygyrch a fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Hefyd, gan fod gwasanaethau bws rheolaidd, mae'n hawdd teithio rhwng campysau.
Darganfyddwch fwy am fyw ar Gampws y Bae
Yn swatio mewn parcdir cyfoethog ac yn dafliad carreg o'r traeth, mae Campws Parc Singleton yn gartref i'r Ysgolion Diwylliant a Chyfathrebu, y Gwyddorau Cymdeithasol, Seicoleg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Biowyddorau, y Gyfraith a'r Ysgol Feddygaeth. Gallwch fyw'n agos at eich darlithoedd, cyfleusterau chwaraeon, Ysbyty Singleton a Bae Abertawe. Gallwch ddewis ystafelloedd en suite, ystafelloedd safonol sydd ag ystafelloedd ymolchi a rennir ac opsiynau arlwyo.
Mae Campws Parc Singleton yn cynnig ystafelloedd en-suite neu safonol (sydd ag ystafelloedd ymolchi a rennir). Mae rhai preswylfeydd hefyd yn cynnig lwfans arlwyo.
Darganfyddwch fwy am fyw ar Gampws Parc Singleton
Mae Tŷ Beck yn cynnwys chwe thŷ Fictoraidd mawr sydd â chymysgedd o lety a rennir, llety en suite a llety hunangynhwysol.
Mae yn ardal Uplands, Abertawe, 1.5 milltir o Gampws Parc Singleton, ac mae siopau, bariau, caffis a bwytai oll o fewn pellter cerdded o Dŷ Beck. Mae maes parcio am ddim gan Dŷ Beck hefyd.
Mae Tŷ Beck yn safle bach a chyfeillgar sy'n opsiwn poblogaidd a fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr gwyddor gofal iechyd/meddygol, myfyrwyr rhyngwladol, teuluoedd a pharau.
Darganfyddwch fwy am fyw yn Nhŷ Beck
Gyda golygfa heddychlon ar draws afon Tawe, mae llety myfyrwyr true Swansea yn lleoliad delfrydol ar gyfer bywyd prifysgol yn y ddinas. Yn daith fer o'r ddau gampws, ar Heol Morfa yng nghanol y ddinas, mae true Student yn cynnig ystafelloedd en suite mewn fflatiau i 5 a 6 ac ystafelloedd preifat ar ffurf stiwdios, â chegin fach ac ystafell ymolchi en suite foethus.
Mae ystafelloedd stiwdio ar gael i ddau berson, felly mae’r rhain yn opsiwn gwych os ydych chi am fyw gyda'ch partner (sylwer, rhaid i’r ddau denant fod yn fyfyrwyr amser llawn).
Darganfyddwch fwy am fyw yn true Swansea