Os ydych chi'n ceisio penderfynu ble i fyw pan fyddwch chi'n symud i Abertawe, mae llawer o resymau dros ddewis llety sy'n cael ei reoli gan y Brifysgol.

Cymuned

Un o'r atebion mwyaf cyffredin i'r cwestiwn 'beth rydych chi'n ei hoffi fwyaf am Brifysgol Abertawe' yw bod pobl yn teimlo'n gartrefol ac yn rhan o'r gymuned o'r cychwyn cyntaf.

Mae rhan enfawr o'r ymdeimlad hwnnw o gymuned yn gysylltiedig â'r cyfeillgarwch sy'n cael ei feithrin rhwng myfyrwyr yn llety'r brifysgol. O goginio bwyd gyda'ch cyd-breswylwyr i baratoi am noson allan a nosweithiau'n ymlacio mewn ardaloedd cymdeithasol cymunedol, mae byw yn llety'r brifysgol yn cynnig cyfleoedd di-rif i greu cysylltiadau cadarn â'r bobl o'ch cwmpas.

Mae byw gyda myfyrwyr sydd hefyd yn astudio yn Abertawe yn creu profiad wedi’i rannu ac ymdeimlad o falchder a fydd yn aros gyda chi yn hir ar ôl i chi raddio.

Grŵp o fyfyrwyr yn cael tynnu eu llun ar y traeth
Dau fyfyriwr yn cerdded heibio Tesco Express a Subway

Cyfleusterau ar y Campws

Mae llwyth o gyfleusterau gwych ar gael i chi ar y ddau gampws, ac os ydych chi'n byw yn llety'r brifysgol, mae nhw ar eich stepen drws yn llythrennol!

Traethau, mannau cymdeithasol (gan gynnwys Ystafell Gemau newydd ar Gampws Singleton), cyfleusterau chwaraeon, llyfrgelloedd, lleoedd bwyta, golchdai, theatrau - mae'r rhain i gyd o fewn pellter cerdded neu daith fer ar y bws o'ch llety yn y brifysgol.

Popeth sydd ei angen arnoch chi yn yr un lle, sy'n golygu llai o amser yn teithio a mwy o amser i fwynhau eich profiad prifysgol i'r eithaf.

Diogelwch

Mae diogelwch ein myfyrwyr a'n staff yn hollbwysig ym Mhrifysgol Abertawe, felly gallwch deimlo'n hyderus ein bod yn ymrwymedig i sicrhau bod byw ar y campws mor ddiogel â phosib.

Mae gennym dîm cyfeillgar o weithwyr diogelwch ar y campws ddydd a nos, sy'n cynnig ymateb brys, atal troseddu, patrolau diogelwch, cymorth cyntaf, cymorth cyntaf iechyd meddwl ac atal hunan-laddiad, ynghyd â monitro camerâu cylch cyfyng.

Rydym hefyd yn gweithredu ap diogelwch personol o'r enw Safezone sy'n eich cysylltu ar unwaith â'n tîm diogelwch. Mae Safezone yn gweithio ar y ddau gampws yn y preswylfeydd, ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, ym Margam a Baglan.

Yn olaf, drwy fyw mewn llety a reolir gan y brifysgol, bydd gennych dawelwch meddwl bod tîm dibynadwy ar gael i helpu os aiff rhywbeth o'i le.

Myfyriwr yn dal arwydd 'yma i helpu'.
Dau fyfyriwr yn eistedd ar fainc yng ngerddi'r Brifysgol

Mannau awyr agored

Yn Abertawe, rydym yn hynod ffodus bod gennym fannau awyr agored arobryn, fel penrhyn Gŵyr, ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf y DU.

Mae statws y Faner Werdd gan diroedd Campws Singleton a Champws y Bae, ac maen nhw o fewn pellter cerdded  i'r traeth. Yn ogystal â hyn, mae Campws Singleton wrth ymyl Parc Singleton, parc gwyrdd 250 o erwau â gerddi botaneg.

Mae'n swnio fel lleoliad delfrydol i agor eich llenni bob bore ond ydy? Mae bod yn yr awyr agored yn hynod bwysig ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol a lles, felly mae llety'r brifysgol yn darparu'r lleoliad perffaith i fwynhau'r awyr agored.