Byw Ar Gampws Parc Singleton
Gallwch fod yn agos at eich darlithoedd, bywyd myfyrwyr ac amwynderau allweddol megis Parc Chwaraeon Bae Abertawe ac Ysbyty Singleton. Yn boblogaidd gyda myfyrwyr blwyddyn gyntaf, rhyngwladol, meddygol ac ôl-raddedig, mae Parc Singleton yn cynnal sawl ysgol academaidd. Mae'r llety'n cynnwys ystafelloedd en suite, safonol ac wedi'u haddasu, gyda cheginau a rennir ac opsiynau arlwyo amrywiol. Mae fflatiau Cymraeg ar gael hefyd.
Y Cyfadrannau sydd yma:
Diwylliant a Chyfathrebu, Y Gwyddorau Cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Seicoleg, Y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, yr Ysgol Feddygaeth a'r Gyfraith.