Llety Campws y Bae

Llety Campws y Bae

Byw Ar Gampws Y Bae

Mae gan Gampws y Bae gyfleusterau o'r radd flaenaf, mynediad uniongyrchol at draeth hyfryd a'i bromenâd ar lan y môr. Mae byw ar Gampws y Bae yn ddewis poblogaidd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, i fyfyrwyr sy'n dychwelyd a myfyrwyr ôl-raddedig, yn ogystal ag ar gyfer myfyrwyr Y Coleg.

Mae'n gartref Peirianneg, Yr Ysgol Reolaeth, y Ffowndri Gyfrifiadol a'r Coleg, ond mae llety ar y campws ar gael i fyfyrwyr ar unrhyw gwrs. Mae gwasanaeth bws aml ac uniongyrchol rhwng y campysau.

Mae gan lety Campws y Bae 2,000 o ystafelloedd mewn cymysgedd o ystafelloedd pâr, en-suite, ystafelloedd premiwm ag en-suite ac ystafelloedd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, yn ogystal â fflatiau 1 a 2 ystafell wely ar gyfer pobl sengl neu barau. Maint canolig yw'r rhan fwyaf o'r ystafelloedd gyda nifer cyfyngedig o ystafelloedd pâr, fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Hefyd, mae gennym ni fflatiau ar y safle ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n boblogaidd ymhlith myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n chwilio am rywle i fyw gyda siaradwyr Cymraeg eraill. 

Edrychwch ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer ystafelloedd ar Gampws y Bae isod. Gallwch ddarllen ein tudalen ffioedd i gael rhagor o wybodaeth am y prisiau a'r wybodaeth o ran talu.

 

Ystafell En-Suite

  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell hunanarlwyo gyda chegin ac ardal eistedd a rennir
  • 4-11 o ystafelloedd gwely fesul fflat
  • Ystafell maint canolig - tua 14 - 16 troedfedd sgwâr
  • Gwely dwbl bach, cist ddillad, desg a chadair, silff lyfrau, man storio, pinfwrdd a drych
  • Mae tenantiaethau Un semester, 44-47 a 51 wythnos ar gael

£140 y person, yr wythnos

Male student sitting at desk in bedroom.

Ystafell En-Suite Premiwm

  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell hunanarlwyo gyda chegin ac ardal eistedd a rennir
  • 4-11 o ystafelloedd gwely fesul fflat
  • Maint ystafell wely Premiwm – tua 16x18 troedfedd sgwâr
  • Gwely dwbl, cist ddillad, desg a chadair, silff lyfrau, ardal storio, pinfwrdd, drych, cadair freichiau ac uned ddroriau.
  • Mae tenantiaethau Un semester, 44-47 a 51 wythnos ar gael

£155 y person, yr wythnos

 
Premium ensuite bedroom.

Ystafell pâr/a rennir

  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wely a rennir
  • Ystafell hunanarlwyo gyda chegin ac ardal eistedd a rennir
  • 8 ystafell ar gael
  • Maint yr ystafell - 3.62m x 2.92m
  • Gwely sengl, cist, desg a chadair, silff lyfrau, ardal storio, pinfwrdd a drych
  • Mae tenantiaethau Un semester a 44-47 wythnos ar gael

£139 y person, yr wythnos

 
Ystafell pâr/a rennir

Fflatiau 1 Neu 2 Ystafell Wely

  • Fflatiau mewn ardal dawel o'r campws
  • Fflatiau dwy ystafell wely gan rannu ystafell ymolchi
  • Ystafell hunanarlwyo gyda chegin breifat a man eistedd
  • 8 ystafell ar gael
  • Maint yr ystafell 3.62 x 2.92m
  • Gwely dwbl bach, cist ddillad, desg a chadair, silff lyfrau, ardal storio, pinfwrdd a drych
  • Mae tenantiaethau Un semester, 44-47 a 51 wythnos ar gael

£165 y person, yr wythnos.

Student standing in kitchen with the bedroom in view in the foreground.

TAITH FIDEO 360°

Darganfyddwch Fwy Am Lety Campws Y Bae