Byw yn Nhŷ Beck
Yn berffaith ar gyfer teuluoedd, parau, myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr gofal iechyd mae Tŷ Beck yn ddewis delfrydol ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd ar leoliad, gan gynnig parcio am ddim ar y safle ar gyfer teithio'n hwylus i safleoedd lleoliad gwaith.
Wedi'i leoli yn ardal fywiog Uplands, 1.5 milltir yn unig o Gampws Parc Singleton, mae Tŷ Beck yn cynnig cymuned fach a chyfeillgar gydag amrywiaeth o opsiynau llety a rennir a sengl. Mae'n berffaith ar gyfer myfyrwyr aeddfed, ôl-raddedig, teuluoedd a pharau sy'n chwilio am rywle cyfforddus a chyfleus i fyw.
Manteision allweddol ar gyfer Myfyrwyr Gofal Iechyd:
- Parcio am ddim ar y safle er mwyn cymudo'n hwylus i leoliadau gwaith
- Lleoliad cyfleus ger siopau, caffis a bwytai
- Llety hunanarlwyo gyda chyfleusterau golchi ar y safle
- Cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol ynghyd â bysiau rheolaidd i'r campysau ac i ganol y ddinas
Edrychwch ar ein hopsiynau llety ac ewch i'n tudalennau ffïoedd am fanylion prisiau.