Gwasanaethau i fyfyrwyr gydag anableddau, cyflwr meddygol neu unrhyw anghenion eraill
Ein nod yw sicrhau bod ein gwasanaethau llyfrgell yn gynhwysol i bawb, ond sylweddolwn fod rhai myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau penodol y gallwn eu cynnig yn ôl yr angen. Gellir cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau a fanylir arnynt isod i fyfyrwyr sydd ag anghenion neilltuol a adnabuwyd yn dilyn asesiad gan Disability@CampusLife. Gadewch i ni wybod os credwch y gallech chi elwa o un o’r opsiynau isod, neu os allwn ni helpu mewn unrhyw ffordd arall. Gallwch e-bostio customerservice@swansea.ac.uk, ffonio 01792 29550 neu fynd i unrhyw un o’n Desgiau Gwybodaeth yn y llyfrgell yn bersonol.
Fformatau gwahanol
Os oes gennych anabledd print (gwybyddol neu gorfforol), efallai bod gennych hawl i gael mynediad at lyfrau, nodiadau darlithoedd a deunyddiau eraill mewn fformat gwahanol. Er enghraifft, efallai y rhoir copi PDF o lyfr i chi os oes gennych anabledd sy'n eich atal rhag trin copi print, neu os oes gennych anhawster dysgu penodol sy'n golygu y byddech yn elwa o allu ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin gyda'r testun. Darperir fformatau gwahanol gan y Ganolfan Drawsgrifio, ond y Gwasanaeth Anableddau sy'n awdurdodi'r gwasanaeth. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Anableddau os credwch y byddech yn elwa o'r gwasanaeth hwn.
Gweler ein gwybodaeth am dechnoleg gynorthwyol am fanylion meddalwedd darllen yn uchel ac offer defnyddiol eraill sydd ar gael i bawb ar gyfrifiaduron mynediad agored ar y campws.
Cyfarpar arbenigol i'w benthyca
Gallwch fenthyg y cyfarpar canlynol o'r Ddesg Wybodaeth yn y Llyfrgell. Efallai na fydd y llyfrgell ar eich campws chi yn cadw rhai o'r eitemau, ond os oes eitemau sydd ar gael gan ein llyfrgelloedd eraill byddwn yn trefnu i’w hanfon.
- Recordwyr Llais Digidol
- Dolenni clyw is-goch
- Camerâu Flip
Efallai bydd modd i chi fenthyg gliniadur hefyd yn unol ag un o'n cynlluniau penodol. Gweler yr adran ynghylch Gliniaduron am ragor o wybodaeth.
Bydd angen cerdyn adnabod y brifysgol a ffurflen wedi’i chwblhau gan y Gwasanaeth Anableddau arnoch i fenthyg gliniaduron a recordwyr llais digidol am gyfnod estynedig a bydd yn rhaid i chi gwblhau Cytundeb Benthyg Cyfarpar. Os nad yw’r darn o gyfarpar y mae ei angen arnoch ar gael yn llyfrgell y campws, gall staff drefnu iddo gael ei drosglwyddo i chi.
Defnyddio ystafelloedd adnoddau nam ar y golwg
Mae man astudio benodedig ar gael ar Lefel 2 Llyfrgell Parc Singleton lle gall myfyrwyr a'u cynorthwywyr weithio. Rhaid bod cerdyn y myfyrwyr wedi'i raglennu i alluogi mynediad i'r ystafell. Ewch i'r Ddesg Wybodaeth yn y Llyfrgell i raglennu'ch cerdyn.
Yn Llyfrgell y Bae, mae man astudio benodedig ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg yn yr Ystafell Astudio Ôl-raddedig yn Adain y De. Rhaid bod cerdyn y myfyrwyr wedi'i raglennu i alluogi mynediad i'r ystafell. Ewch i Ddesg Wybodaeth Llyfrgell y Bae i wneud hyn.
Loceri
Mae loceri ar gael i fyfyrwyr sydd wedi nodi angen yn eu hasesiad. Mae loceri yn Ystafell Astudio Llyfrgell Parc Singleton a ger y fynedfa i Adain y Gogledd yn Llyfrgell y Bae. Ewch i'r Ddesg Wybodaeth yn Llyfrgell Parc Singleton neu Lyfrgell y Bae gyda'r ffurflen o'r Gwasanaeth Anableddau er mwyn neilltuo locer ar eich cyfer.
Aelodaeth o'r Llyfrgell i gynorthwywyr
Gall cynorthwywyr gael cyfleusterau benthyca eu hunain yn y Llyfrgell. Ewch i'r Ddesg Wybodaeth yn Llyfrgell Parc Singleton neu Lyfrgell y Bae i drefnu hyn.