Mae'r 'Dyniaethau Digidol' yn derm eang sy'n cyfeirio at y defnydd o dechnoleg i wella, ategu neu gynnal ysgolheictod yn y dyniaethau neu mewn meysydd sy'n gysylltiedig â'r dyniaethau.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae tîm y Dyniaethau Digidol yma i gefnogi prosiectau ac ymchwil academaidd a chymunedol yn y dyniaethau - cysylltwch â ni i ddarganfod beth gallwn ni ei wneud i chi a'ch ymchwil.
Ein Gwasanaethau
Cyhoeddi Cyfnodolion Agored
Gall y tîm weithio gyda chi i gynorthwyo wrth gyhoeddi cyfnodolion academaidd, mewn cydweithrediad â gwasanaethau eraill y Llyfrgell i gefnogi awduron. Gan ddefnyddio OJS, platfform cyhoeddi cyfnodolion, gallwn gynorthwyo i greu a chynnal cyhoeddiadau academaidd mynediad agored, sy'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid.
Omeka
Mae'r tîm yn cefnogi prosiectau gwe sy'n defnyddio Omeka, platfform lle gellir arddangos archifau, arddangosfeydd a phrosiectau ar-lein. Enghraifft o brosiect Omeka a reolir gan dîm y Dyniaethau Digidol yw'r prosiect Traethodau'r Canmlwyddiant .
MEYSYDD Y GALLWN NI HELPU CYDWEITHWYR Â NHW
· Meddalwedd cyfrifiadura ymchwil, isadeiledd a systemau
· Dadansoddi, trin a thrafod a chyfleu testunau
o Rhifynnau digidol pwysig (TEI, XML)
o Cyfnodolion ar-lein
o Alinio testunau
o Anodi testunau
o Trosglwyddo testunau
o Cloddio data a deallusrwydd artiffisial
o Data agored cysylltiedig (OWL, SKOS ac RDF)
o Prosesu iaith naturiol
o Ieithyddiaeth gyfrifiadol
o Coedfancio
o Ieitheg
· Cronfeydd data
o Fflat
o Perthynol
o NoSQL
o Storio data strwythuredig e.e. Y System Gwybodaeth Ymchwil
o XML/XQuery
· Delweddu
o Digideiddio
o Modelau 3D
o Delweddu
o Realiti estynedig
o Arysgrifaeth ddigidol
· Datblygu meddalwedd graddadwy
· Datblygu a chynnal gwefan
· Casgliadau ar arddangosion digidol
· Podlediadau
· Fformatau data cynaliadwy a chadwraeth ddigidol
· Hawlfraint digidol
· Cartograffeg ddigidol
o LIDAR
o GIS (SYSTEMAU GWYBODAETH DDAEARYDDOL)
o Mapiau Stryd Agored
· Llifoedd gwaith digideiddio
· Rheoli prosiect
· ysgrifennu ceisiadau am grantiau ymchwil