Mae Tîm y Dyniaethau Digidol yn cefnogi ac yn cydweithredu ar lawer o wahanol fathau o ymchwil ar draws y Brifysgol, o fersiynau digidol o destunau llenyddol i brosiectau realiti rhithwir sy'n llenwi ystafell gyfan. Mae dolenni i'r prosiectau rydym yn eu cynnal, yn eu datblygu neu’n ymgynghori arnynt, a disgrifiadau o’r rhain, ar gael isod. Cysylltwch â'r tîm i ddysgu sut gallwn eich helpu i gyflawni nodau eich ymchwil.

Gohebiaeth Elizabeth Montagu Ar-lein

Sgrinlun o hafan llythyrau Montagu

Casgliad ar-lein o lythyrau Elizabeth Montagu 1718-1800, ei gohebwyr ac aelodau eraill o'i chylch ("the Montagu Correspondence"). Golygir y casgliad gan yr Athro Caroline Franklin a'r Athro Nicole Pohl.

Casgliad y Maes Glo

Ciplun o wefan casgliad y Maes Glo

Casgliad o ddeunyddiau gwe sy'n taflu goleuni ar fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Maes Glo De Cymru yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrifoedd, gan gynnwys deunydd sain a fideo sy'n berthnasol i arweinwyr undebau llafur o bwys i ddynion a fu'n gweithio yn y pyllau glo a'u teuluoedd, a ffotograffau sy'n dangos pob agwedd ar fywyd yn y maes glo.

Demon Things

Delwedd o gythraul hynafol Aifft mewn lliw.

Cronfa ddata ryngweithiol yw Demon Things. Mae'n cynnwys casgliad data y gellir ei estyn yn fyd-eang o endidau dieflig yr Hen Aifft fel y cyfeirir atynt mewn testunau ac arteffactau, o ymchwil Kasia Szpakowska. Mae'r wefan yn cynnig porth i archwilio'r gronfa ddata a chyrchu gwybodaeth ychwanegol.

Adnodd Cyfieithu ar y Pryd Rhyngweithiol

Taflen waith gydag amrywiol flychau testun glas a phwyntiau sganio AR.

Mae Labordy Realiti Rhithwir newydd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (a sefydlwyd gan Dr Leighton Evans) ar agor i fyfyrwyr a staff ar ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 3.30pm yn ystafell B19 Adeilad Callaghan. Gall staff a myfyrwyr o unrhyw goleg/adran alw heibio i arbrofi â chyfarpar realiti rhithwir arloesol.

Guto'r Glyn

Sgrinlun o gerdd yn Gymraeg gyda dadansoddiad i'r dde mewn cwarel ar wahân.

Cyhoeddiad digidol manwl o waith Guto'r Glyn. Yma gall defnyddwyr weld fersiynau gwahanol o bob cerdd a thrawsgrifiadau/testun wedi'i anodi ochr yn ochr â'r cerddi gwreiddiol, ynghyd â nodiadau eglurhaol, cyfieithiadau a sganiau o'r llawysgrifau gwreiddiol a gwledd o wybodaeth fywgraffiadol a chyd-destunol

Byd Copr Cymru

Ffotograff o'r ty injan yng ngwaith copr Hafod-Morfa.

Prosiect rhyngddisgyblaethol mawr yw Byd Copr Cymru. Mae'n cynnwys archifo, AR, ail-greu ac adolygu, gan weithio ar ffyrdd newydd i ymwelwyr ryngweithio â safleoedd treftadaeth ar safle Treftadaeth y Byd Abertawe, sef treftadaeth ddiwydiannol Cwm Tawe Isaf. Staff cysylltiedig: Yr Athro Huw Bowen (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol), Matt Jones (Labordy FIT).

Lolfa Realiti Rhithwir Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Cefndir llwyd gyda thestun gwyn yn darllen 'VR Lounge'

Mae Labordy Realiti Rhithwir newydd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (a sefydlwyd gan Dr Leighton Evans) ar agor i fyfyrwyr a staff ar ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 3.30pm yn ystafell B19 Adeilad Callaghan. Gall staff a myfyrwyr o unrhyw goleg/adran alw heibio i arbrofi â chyfarpar realiti rhithwir arloesol.

Dafydd ap Gwilym

Sgrinlun o dafyddapgwilym.net

Casgliad digidol o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym sy'n cynnwys cyfieithiadau, fersiynau dogfen gwahanol, sain, nodiadau a sganiau o'r llawysgrifau gwreiddiol. Datblygwyd dan arweiniad yr Athro Dafydd Johnston.

Neo-Victorian Studies

Screenshot of NVS Homepage

E-gyfnodolyn mynediad agored a adolygir gan gymheiriaid yw Neo-Victorian Studies. Ei nod yw ail-ddehongli'r 19eg ganrif o safbwynt cyfoes mewn llenyddiaeth, y celfyddydau a'r dyniaethau. Golygir y cyfnodolyn gan Dr Mel Kohlke.

History of Computing Collection

Image of IBM computer

Mae Hanes Cyfrifiadura yn gasgliad y gellir ei archwilio ar y safle ac ar-lein o gyfarpar, meddalwedd, archifau, effemera, hanesion llafar a fideos. Nod y Casgliad yw "astudio hanes datblygu ac arloesi technolegol, yn enwedig y berthynas rhwng technolegau cyfrifiadura a phobl a chymdeithas" gyda ffocws arbennig ar ddatblygiad allweddol cyfrifiadura yng Nghymru. Mae arddangosfa ar-lein newydd yn cael ei datblygu.

Baledi Huw Jones

Screenshot of the home page for Baledi Huw Jones featuring a wide banner on a white background

Casgliad Cymraeg o waith y baledwr Huw Jones o'r 18fed ganrif.

Ganolfan Eifftaidd Holograff

Photograph of Egypt Centre VR exhibit

Mae'r Ganolfan Eifftaidd yn Abertawe'n cynnwys arddangosfa realiti cymysg ar ffurf holograff. Mae'n cyfuno diwylliant diriaethol materol yr hen Aifft â dehongliad gwyddonol digidol sy'n defnyddio uwch-dechnoleg mewn un arddangosyn. Wedi'i datgelu fel rhan o'r digwyddiad Hologramau a Hanes a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2018 fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain a gŵyl Civilisations y BBC yn 2018, mae'r arddangosfa newydd hon yn hynod boblogaidd gydag ymwelwyr.