Mae Tîm y Dyniaethau Digidol yn cefnogi ac yn cydweithredu ar lawer o wahanol fathau o ymchwil ar draws y Brifysgol, o fersiynau digidol o destunau llenyddol i brosiectau realiti rhithwir sy'n llenwi ystafell gyfan. Mae dolenni i'r prosiectau rydym yn eu cynnal, yn eu datblygu neu’n ymgynghori arnynt, a disgrifiadau o’r rhain, ar gael isod. Cysylltwch â'r tîm i ddysgu sut gallwn eich helpu i gyflawni nodau eich ymchwil.
Gohebiaeth Elizabeth Montagu Ar-lein
Casgliad ar-lein o lythyrau Elizabeth Montagu 1718-1800, ei gohebwyr ac aelodau eraill o'i chylch ("the Montagu Correspondence"). Golygir y casgliad gan yr Athro Caroline Franklin a'r Athro Nicole Pohl.
Casgliad y Maes Glo
Casgliad o ddeunyddiau gwe sy'n taflu goleuni ar fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Maes Glo De Cymru yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrifoedd, gan gynnwys deunydd sain a fideo sy'n berthnasol i arweinwyr undebau llafur o bwys i ddynion a fu'n gweithio yn y pyllau glo a'u teuluoedd, a ffotograffau sy'n dangos pob agwedd ar fywyd yn y maes glo.
Demon Things
Cronfa ddata ryngweithiol yw Demon Things. Mae'n cynnwys casgliad data y gellir ei estyn yn fyd-eang o endidau dieflig yr Hen Aifft fel y cyfeirir atynt mewn testunau ac arteffactau, o ymchwil Kasia Szpakowska. Mae'r wefan yn cynnig porth i archwilio'r gronfa ddata a chyrchu gwybodaeth ychwanegol.
Adnodd Cyfieithu ar y Pryd Rhyngweithiol
Mae Labordy Realiti Rhithwir newydd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (a sefydlwyd gan Dr Leighton Evans) ar agor i fyfyrwyr a staff ar ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 3.30pm yn ystafell B19 Adeilad Callaghan. Gall staff a myfyrwyr o unrhyw goleg/adran alw heibio i arbrofi â chyfarpar realiti rhithwir arloesol.
Guto'r Glyn
Cyhoeddiad digidol manwl o waith Guto'r Glyn. Yma gall defnyddwyr weld fersiynau gwahanol o bob cerdd a thrawsgrifiadau/testun wedi'i anodi ochr yn ochr â'r cerddi gwreiddiol, ynghyd â nodiadau eglurhaol, cyfieithiadau a sganiau o'r llawysgrifau gwreiddiol a gwledd o wybodaeth fywgraffiadol a chyd-destunol
Byd Copr Cymru
Prosiect rhyngddisgyblaethol mawr yw Byd Copr Cymru. Mae'n cynnwys archifo, AR, ail-greu ac adolygu, gan weithio ar ffyrdd newydd i ymwelwyr ryngweithio â safleoedd treftadaeth ar safle Treftadaeth y Byd Abertawe, sef treftadaeth ddiwydiannol Cwm Tawe Isaf. Staff cysylltiedig: Yr Athro Huw Bowen (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol), Matt Jones (Labordy FIT).
Lolfa Realiti Rhithwir Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
Mae Labordy Realiti Rhithwir newydd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (a sefydlwyd gan Dr Leighton Evans) ar agor i fyfyrwyr a staff ar ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 3.30pm yn ystafell B19 Adeilad Callaghan. Gall staff a myfyrwyr o unrhyw goleg/adran alw heibio i arbrofi â chyfarpar realiti rhithwir arloesol.
Dafydd ap Gwilym
Casgliad digidol o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym sy'n cynnwys cyfieithiadau, fersiynau dogfen gwahanol, sain, nodiadau a sganiau o'r llawysgrifau gwreiddiol. Datblygwyd dan arweiniad yr Athro Dafydd Johnston.
Neo-Victorian Studies
E-gyfnodolyn mynediad agored a adolygir gan gymheiriaid yw Neo-Victorian Studies. Ei nod yw ail-ddehongli'r 19eg ganrif o safbwynt cyfoes mewn llenyddiaeth, y celfyddydau a'r dyniaethau. Golygir y cyfnodolyn gan Dr Mel Kohlke.
Casgliad Hanes Cyfrifiadura
Mae Hanes Cyfrifiadura yn gasgliad y gellir ei archwilio ar y safle ac ar-lein o gyfarpar, meddalwedd, archifau, effemera, hanesion llafar a fideos. Nod y Casgliad yw "astudio hanes datblygu ac arloesi technolegol, yn enwedig y berthynas rhwng technolegau cyfrifiadura a phobl a chymdeithas" gyda ffocws arbennig ar ddatblygiad allweddol cyfrifiadura yng Nghymru. Mae arddangosfa ar-lein newydd yn cael ei datblygu.
Ganolfan Eifftaidd Holograff
Mae'r Ganolfan Eifftaidd yn Abertawe'n cynnwys arddangosfa realiti cymysg ar ffurf holograff. Mae'n cyfuno diwylliant diriaethol materol yr hen Aifft â dehongliad gwyddonol digidol sy'n defnyddio uwch-dechnoleg mewn un arddangosyn. Wedi'i datgelu fel rhan o'r digwyddiad Hologramau a Hanes a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2018 fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain a gŵyl Civilisations y BBC yn 2018, mae'r arddangosfa newydd hon yn hynod boblogaidd gydag ymwelwyr.