Os mae'ch cwrs wedi'i sefydlu ar Gampws Parc Singleton, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod o Lyfrgell Parc Singleton.
Os mae'ch cwrs wedi'i sefydlu ar Gampws y Bae, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod o Lyfrgell y Bae.
(Sylwch, gall y campws lle mae'ch cwrs wedi'i sefydlu fod yn wahanol i'r campws lle rydych chi'n byw. Os ydych yn ansicr o le mae'ch cwrs wedi'i sefydlu, gallwch wirio hwn ar eich tudalen proffil myfyriwr ar Fewnrwyd y Brifysgol.)
Bydd Casglu Cardiau Adnabod ar agor yn Llyfrgelloedd Parc Singleton a'r Bae yn ystod oriau agor Desg Llyfrgell MyUni. Gwiriwch ein tudalennau oriau agor y llyfrgell am fanylion ein horiau desg:
Oriau agor Llyfrgell y Bae
Oriau agor Llyfrgell Parc Singleton